Rheilffordd Cwm Elan, 1902
Rheilffordd Cwm Elan, 1902
Disgrifiadau
Rhan o Reilffordd Cwm Elan - rheilffordd a gafodd oes fer ond gwerthfawr iawn ar y pryd, ac a ddefnyddiwyd ar gyfer cludo deunyddiau adeiladu pan godwyd argaeau a chronfeydd dŵr yn yr ardal gan Gyngor Dinas Birmingham. Yn y ffotograff hwn gwelir locomotif yr 'Elan' yn tynnu balast i lawr y cwm tua'r de rhwng safleoedd argaeau Pen y Garreg a Charreg Ddu, yn union ar draws yr afon o blasty Cwm Elan. Boddwyd y cwm islaw'r trac yn ddiweddarach pan adeiladwyd yr argaeau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment