CWMYSTWYTH LEAD MINES, Ceredigion 2010
Disgrifiadau
Nodiadau ar FWYNGLODDIAU PLWM CWMYSTWYTH, Ceredigion 2010
Mae rhai o'r farn bod mwyngloddiau plwm Cwmystwyth yn greithiau sy’n atgoffa rhywun o’r difrod a wnaed a’r perygl a achoswyd i ddyn ac i’r tirwedd. Pan dynnais lun ohonynt gyntaf yn ôl yn 1989, roedd melin fawr wedi ei gwneud o dun yn dal i sefyll, yn goch ac yn rhydu ac yn edrych yn ddramatig yn erbyn y tomenni llwyd a'r bryniau oedd yn melynu.
Yn fuan wedi hyn cafodd y felin ei datgymalu, a chredaf i bob darn gael ei rifo – o bosib ar gyfer ei hailadeiladu, er na wn ym mhle! Mae nifer o adeiladau eraill wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y cwm, ac roedd pob un ohonynt mewn cyflwr peryglus yn ôl yn 1989; ugain mlynedd yn ddiweddarach mae rhai ohonynt wedi diflannu i bob pwrpas.
Er fy mod wedi ymweld â'r mwngloddiau dwn i ddim sawl gwaith – a minnau ond yn byw ychydig filltiroedd I ffwrdd – cafodd y lluniau mwyaf llwyddiannus eu tynnu mewn un prynhawn ym 1993. Roeddwn wedi dechrau defnyddio camera maes 5x4 modfedd rai misoedd ynghynt ac roedd y daith hon, taith feicio ddwy filltir, yn un greadigol iawn a gobeithio y bod y canlyniadau'n profi hyn.
Maet ystiolaeth bod rhywrai wedi bod yn cloddio yng Nghwmystwyth ers yr Oes Efydd gyda uchafbwynt yr holl fwyngloddio yn digwydd erbyn ddiwedd y 19eg ganrif; roedd Chwmystwyth yn un o fwyngloddiau mwyaf cynhyrchiol y wlad hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Dywedir mai 32 mlwydd oed oedd oedran cyfartalog y mwyngloddwyr yn marw oherwydd gwenwyn plwm. Mae hi wedi cymryd degawdau lawer wedi i’r cloddio ddod i ben i bysgod ddychwelyd i ddyfroedd gwenwynig afon Ystwyth sy'n llifo wrth droed y pyllau glo.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment