Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llun o Lanfair Caereinion ym 1802 ac, yn ei ganol, neuadd y farchnad. Roedd y neuaddau marchnad yn ganolbwynt ar un adeg i fywyd lleol, gyda marchnad dan do ar lefel y stryd ac ystafell gyfarfod uwchben. Ychydig iawn o'r neuaddau marchnad hynaf sydd wedi goroesi. Roeddynt fel arfer wedi eu lleoli yng nghanol y stryd fawr gan achosi problemau wrth i drafnidiaeth ceffyl ac yna foduron gynyddu. Mae un o'r ychydig neuaddau marchnad i oroesi i'w gweld heddiw yn nhref Llanidloes. Engrafiad o ddarlun gan G. Samuel cyhoeddwyd gan J. Walker o Lundain.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw