Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.
Disgrifiad
Yn fuan iawn fe ddaeth Cwm Elan yn hoff gyrchfan ar gyfer ymwelwyr a phobl ar eu gwyliau yn yr 1900au cynnar. Roedd y cynllun anferth hwn i ddarparu dŵr i ddinas Birmingham, oedd yn prysur dyfu ar y pryd, wedi creu math o 'Ardal y Llynnoedd' yng nghanolbarth Cymru. Lluniwyd y cerdyn hwn o ddau ffotograff er mwyn amlygu'r fath ehangder o ddŵr a oedd i'w weld yma.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw