Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.
Disgrifiad
Lletywyd cannoedd o weithwyr adeiladu mewn cymuned dros dro o gytiau pren yn ystod adeiladu argaeau a chronfeydd dŵr Cwm Elan. Lleolwyd y 'pentref' hwn ar lan Afon Elan o du isaf i'r argae cyntaf yng Nghaban Coch. Roedd y rheolau ar gyfer y gweithwyr yn llym ac fe reolwyd y mynediad i'r pentref, oedd ar draws pont grog, gan warchodwr. Mae cytiau'r gweithwyr ar ochr chwith y bont ac mae'r ysbyty ar y dde. Mae'r rheilffordd oedd yn hanfodol ar gyfer cludo deunyddiau adeiladu i'r safleoedd pellaf i'w weld yn dilyn ymyl y ffordd.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw