Dau Bastwn Cyflwyno - Tonypandy 1910
Disgrifiadau
Digwyddodd anghydfod glowyr Tonypandy ym 1910 yn bennaf oherwydd newid yn y system gyflogau. Talwyd glowyr yn ôl faint o lo roedden nhw'n ei gynhyrchu, ond pe bai'r wythïen roedden nhw'n ei gweithio yn arbennig o anodd, yna byddai eu cyflog yn cael cymhorthdal gyda 'lwfans'. Roedd perchnogion y pyllau eisiau rhoi'r gorau i dalu lwfansau, ac yn ddealladwy roedd y glowyr yn teimlo'n ddig.
Ym mis Hydref 1910, yng Nglofa Cambrian Combine, cafodd tua 800 o lowyr a oedd yn gwrthwynebu'r system gyflogau newydd eu cloi allan o'r pwll. Yna aeth tua 12,000 o lowyr ar streic, ac arweiniodd y gwrthdaro a ddaeth yn sgil hyn rhwng y streicwyr a'r heddlu at drais a therfysg. Ym mis Hydref 1911, derbyniodd y glowyr delerau newydd gan ddychwelyd i'r gwaith ym mis Hydref 1911.
Mae'r ddau bastwn cyflwyno hyn mewn casgliad preifat - Casgliad The Ross Mather Police Memorabilia of Wales.
Cafodd nifer fach eu comisiynu'n arbennig gan Lionel Lindsay, Prif Gwnstabl Morgannwg, ar gyfer eu cyflwyno i'r rhai y credai ef eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig am eu hymddygiad ar noson 7/8 Tachwedd 1910 yn ystod yr ymosodiad ar Lofa Morgannwg, Llwynypia.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment