Llwynog: tacsidermi gan J. Hutchings, Aberystwyth
Disgrifiadau
Llwynog a dwy sofliar
Tacsidermydd: J. Hutchings, Aberystwyth
Roedd y llwynog yn un o hoff wrthrychau'r teulu Hutchings. Ceir sawl enghraifft wedi'u trefnu yr un ffordd, gyda'r llwynog ar ei gluniau a gyda'i ben i fyny.
Câs: ochrau gwydr, corneli crwn a thraed; mewn cyflwr da
Mesuriadau: uchder x lled x dyfnder: 88 x 89 x 33 cm
Mae'n well gan y math hwn o lwynog fyw mewn ardaloedd cefn gwlad coediog, ac yn aml mae'n byw mewn ardaloedd mynyddig. Yn ystod y tymor magu, maent yn turio gwâl neu ffau. Maent yn bwyta aeron, pryfed, pryfed genwair, malwod, llygod, cwningod, adar gem a dofednod. Gall cynffon y llwynog ymestyn hyd at 1 troedfedd 3 modfedd o hyd, ymron i hanner hyd ei gorff.
Disgrifiad: Amgueddfa Ceredigion
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment