Ffesantod: tacsidermi, tua'r flwyddyn 1910
Disgrifiadau
Ceiliog a iâr ffesant ('pasianus colchicus'): saethwyd yr adar hyn yng ngoedwig Penglais, Aberystwyth.
Tacsidermydd: J. Hutchings, Aberystwyth
Câs: gwydr gydag ochrau pren; traed sgwâr bach; wedi ei osod yn ôl o'r blaen rhyw ychydig.
Mesuriadau: uchder x lled x dyfnder: 67 x 95 x 19 cm
Mae'r aderyn hwn yn dod yn wreiddiol o ardaloedd cynhesaf Asia, sy'n ymestyn o dde Rwsia hyd at Tseina. Cafodd ei gyflwyno i Brydain mor bell yn ôl ag oes y Normaniaid. Mae llawer iawn o dir isel Prydain, gan gynnwys y clytwaith o goed a thir amaethyddol a geir yn y wlad, yn gynefin addas iawn ar gyfer y ffesant. Yn sgil poblogrwydd saethu ar yr ystadau mawr yn ystod yr 19eg ganrif, daeth yr aderyn hwn yn fwyfwy poblogaidd. Mae'n aderyn hawdd iawn i'w fagu. Mae'n darged arbennig o hawdd i'w saethu gan ei fod yn hedfan yn gyflym ac yn syth, ond nid yw'n medru hedfan yn bell iawn. Mae lliw ei blu yn debyg i adar eraill sy'n nythu ar y ddaear, gan fod y ceiliog llawer iawn mwy lliwgar na'r iâr.
Disgrifiad: Amgueddfa Ceredigion
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment