Pâl, Pâl Manaw, Gwylog, Gwalch y penwaig a'r Cwtiad Torchog: tacsidermi gan J. Hutchings, Aberystwyth
Disgrifiadau
Casgliad diddorol o adar y môr: pâl, pâl manaw, gwylog, gwalch y penwaig a'r cwtiad torchog.
Tacsidermydd: J. Hutchings, Aberystwyth
Câs: ochrau agored ac mewn cyflwr da.
Mesuriadau: uchder x lled x dyfnder: 61 x 76 x 20 cm
Mae'r tri math hwn o aderyn yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd, ac maent yn wir adar y môr, gan ddod i'r tir i fagu'n unig. O ddiwedd mis Mawrth hyd at fis Awst maent yn byw mewn nythfeydd mawr cymysg ar hyd arfordiroedd gogledd a gorllewin Prydain. Mae pob un o'r adar uchod yn dodwy un ŵy mewn gwahanol fannau: mae'r pâl yn turio ar lechweddau glaswelltog, y gwylog yn dodwy ei ŵy ar siliau agored y clogwyni, a gwalch y penwaig yn dodwy mewn holltau yn y graig. Maent yn treulio gweddill y flwyddyn ar y môr. Mae gan yr adar hyn adenydd cwta a chul, sy'n eu gwneud yn hedfanwyr gwan, ond mae'r adenydd hyn yn eu galluogi i nofio o dan y dŵr ar ôl pysgod. Mae plu y gwylog hwn yn dangos nad yw yn ei dymor magu. Yn ystod y gwanwyn mae ei ben a'i wddf yn dywyll, fel gwalch y penwaig.
Disgrifiad: Amgueddfa Ceredigion
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment