Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ffwlbart ('mustela putorius')

Tacsidermi, o bosibl gan J. Hutchings, Aberystwyth. Mewn cyflwr da a gydag edrychiad gwych ar wyneb y ffwlbart. Mae gan y câs ochrau gwydr.

Mesuriadau: uchder x lled x dyfnder: 39.5 x 46 x 20 cm

Mae'r ffwlbart yn heliwr ffyrnig gan hela pryfed yn ogystal ag anifeiliaid mor fawr â'r ysgyfarnog. Mae'n ddigon hapus yn byw gerllaw pobl, yn enwedig o amgylch y ffermydd, ac o achos hyn, ynghyd â'r arfer o ymosod ar ieir, mae pobl wedi ei hela'n ddidrugaredd. Yn ystod y 19eg ganrif bu bron i'r ffwlbart gael ei ddifa'n llwyr ym Mhrydain ond mae'n parhau i fyw mewn un ardal fach yng Nghymru, o amgylch Aberystwyth. Mae nifer yr anifeiliad hyn bellach ar gynnydd mewn rhannau o Gymru, ond nid yw wedi llwyddo i fagu mewn rhannau eraill o Brydain.

Disgrifiad: Amgueddfa Ceredigion

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw