Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ysgyfarnog fynydd ('lepus timidus')

Tacsidermydd: J. Hutchings, Aberystwyth
Câs: ochrau pren; corneli sgwâr a thraed
Dyddiad: 1900-1940
Mesuriadau: uchder x lled x dyfnder: 46.5 x 49.5 x 19 cm

. Uchder 18.5", Dyfnder 7 3/4", Hyd 19.5" .

Mae'r ysgyfarnog fynydd yn troi'n wyn yn y gaeaf. Nid yw'r newid hwn yn ei liw o ganlyniad iddo golli ei got, ond yn hytrach am fod ei gelloedd yn sugo lliw o'i ffwr ar dymheredd isel. Mae hyn i ryw raddau yn diogelu'r ysgyfarnog rhag y rhai sy'n ei hela, ac yn y gwanwyn mae blew tywyll newydd yn tyfu. Mae rhediad igam-ogam yr ysgyfarnog, yn ogystal â'i gyflymdra, yn ddau beth pwysig iawn wrth ddiogelu ei hun rhag unrhyw ymosodiad. Maent yn bridio ar y gorsydd uchel anffrwythlon yng Nghymru a'r Alban.

Disgrifiad: Amgueddfa Ceredigion

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw