Skip to main content

Colomennod gwyllt a gwylan benddu: tacsidermi, tua'r flwyddyn 1920

Disgrifiadau

Colomennod gwyllt a gwylan benddu mewn câs bren (gydag ochrau pren). Nid yw enw'r tacsidermydd yn hysbys.
Dyddiad: tua 1920
Mesuriadau: uchder x lled x dyfnder: 61 x 54 x 20.7 cm

Mae'r golomen fferal yn ddisgynnydd i golomen y graig, sef aderyn sy'n nythu ar glogwyni, ac mae i'w gweld o hyd ar rai arfordiroedd anghysbell yn yr Alban. Ni cheir gwir golomennod y graig unrhywle arall ym Mhrydain Fawr. Mae'r croesfridio sydd wedi cymryd lle gyda gwahanol fathau domestig o'r aderyn hwn, yn ogystal â'r colomennod rasio, wedi creu adar a gwahanol fathau o blu, fel y rhai a welir ym mhob tref a dinas heddiw. Mae'r adar hyn yn byw yn bennaf ar hen friwsion sy'n cael eu gadael ar y strydoedd. Mae'r ddau aderyn hwn wedi eu harddangos mewn câs gyda sborionwr cyffredin arall, sef yr Wylan Benddu, yn ei phlu gaeafol. Yr wylan benddu yw'r lleiaf o blith y gwylanod tref a glan y môr. Mae'r pig a'r coesau o liw coch llachar yn ystod y tymor paru, ac yn oren yn ystod y gaeaf. Maent yn dodwy tri ŵy ymhob nythaid ac mae'r cyfnod deor yn para 23 o ddyddiau.

Disgrifiad: Amgueddfa Ceredigion

Owner:
Ceredigion Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Ceredigion
Copyright Details:
Ceredigion Museum 2003
Publisher Ref:
GTJ23596
Eitem wedi’i llwytho:
15/2/2010
Date originally created:
1920
Gwelediadau:
987
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment