Bathodyn Heddlu 'Merit Class'
Bathodyn Heddlu 'Merit Class'
Disgrifiadau
Bathodyn o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi ei wneud â llaw o bwyth bwliwn arian - fe'i defnyddiwyd gan y rhan fwyaf o heddluoedd yng Nghymru. Byddai'r 'Merit Class' yn cyfeirio at Gwnstabl 'Merit Class' neu Ringyll 'Merit Class'.
Fel arfer byddai'n cael ei wnïo ar ran gwaelod llawes dde iwnifform, a byddai'n nodi rheng y swyddog. 'Merit Class' oedd y dosbarth uchaf o deilyngdod oedd yn bosib o fewn rheng penodol a
byddai'n gysylltiedig gyda strwythur graddfa talu. Oddeutu 3 modfedd o led.
Rhan o Gasgliad Ross Mather Police Memorabilia of Wales.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment