arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Ffon fotwm bres ddosbarthwyd i aelodau o Heddlu Morgannwg fel rhan o'u hoffer. Mae'r un yma yn dyddio'n ôl i pan ffurfiwyd yr heddlu hwnnw yn 1841. Mae rhestrau offer y plismyn cyntaf hynny yn dangos bod pob un wedi derbyn 'Ffon fotwm'.
Roedd stribed pres yn slotio dros res o fotymau (fel ar wisg plismon) yn y fath fodd fel ei fod yn caniatáu i'r botymau gael eu polisio heb i'r defnydd gael ei faeddu.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw