Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r esgid hon (atgynhyrchiad diweddarach) yn debyg i'r math o esgid a wnaed gan gryddion Aberhonddu yn ystod y Canol Oesoedd.

Yn y Canol Oesoedd, roedd gan bob crefft ei hurdd neu gymdeithas crefftwyr, nid annhebyg i undebau llafur heddiw. Byddai'r urddau hyn yn rheoli prisiau, cyflogau ac amodau gweithio o fewn eu crefftau unigol. Roedd Urdd y Cryddion yn ffynnu yn Aberhonddu yn ystod teyrnasiadau Edward I a II a rhoddodd siarter yn ystod teyrnasiad Philip a Mary yr hawliau monopoli iddynt werthu esgidiau a gwintasau ym Marchnad Aberhonddu. Yn ystod teyrnasiad Harri V, bu Syr Dafydd Gam yn recriwtio cryddion Aberhonddu fel saethwyr i ymladd ym Mrwydr Agincourt (1415).

Roedd gan y Cryddion hefyd gysylltiadau agos â Chadeirlan Aberhonddu. Roedd gan y Cryddion, y Gweithwyr Lledr, y Panwyr a'r Gwehyddion eu capeli urdd yn eiliau Eglwys y Priordy ac fe'u gwahanwyd o gorff yr Eglwys gan sgriniau pren. Hyd at 1995, roedd Urdd fodern y Cryddion yn pererindota'n rheolaidd i'w hen gapel yn y Gadeirlan.

Ffynhonnell: Canolfan Dreftadaeth Cadeirlan Aberhonddu

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw