Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Daethpwyd o hyd i'r pen carreg hwn yn Nhy Faenor, ffermdy sydd wedi ei leoli tua milltir o Abaty Cwm-hir, ac a adeiladwyd gan ddefnyddio cerrig o adfeilion yr abaty.
Mae'r pen o arddull Romanésg glasurol gyda llygaid lensaidd agored trawiadol, clustiau ac ychydig o flew ar yr wyneb. Er ei fod o arddull Romanésg, mae'r llygaid mawr gwag a phrinder unrhyw fanylion eraill yn datgelu dylanwadau Celtaidd cryf.
Cerfiwyd y pen hwn o dywodfaen Grinshill (nid oes unrhyw dywodfaen y gellir ei gerfio yng Nghymru, a'r cyflenwad agosaf oedd Grinshill, ger Clive, Swydd Amwythig) a gludwyd i Abaty Cwm-hir ar gyfer llunio'r pileri, fframiau'r ffenestri, drysau a manylion cerfiedig eraill.
Mae Abaty Cwm-hir yn leoliad pwysig iawn yn hanes Cymru. Nid ydym yn gwybod rhyw lawer am hanes cynnar yr abaty ond gwyddom iddo gael ei sefydlu'n barhaol ym 1176, dan nawdd Cadwallon ap Madog o Faelienydd yn ôl pob tebyg (Maelienydd oedd yr enw ar y rhan hon o Bowys ar y pryd). Ymosodwyd ar yr abaty ddwywaith ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif gan Hugh de Mortimer ac yn y pen draw derbyniodd siarter Normanaidd. O'r flwyddyn 1197 ymlaen, dechreuwyd codi adeilad carreg parhaol yn lle'r adeilad pren cynharach ac, er na chafodd ei gwblhau, roedd yr abaty yn adeilad sylweddol o ran ei faint; yn wir, dim ond abatai Durham a Chaer-wynt oedd yn fwy o faint ar y pryd.
Yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, lansiodd Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) gynllun adeiladu uchelgeisiol ar y safle, ond unwaith yn rhagor, ni gwblhawyd y gwaith. Ei nod oedd ailgodi'r abaty yn gadeirlan fawr genedlaethol a fyddai'n adlewyrchu safle gwleidyddol a chrefyddol annibynnol Cymru o dan ei awdurdod. Fodd bynnag, denodd ei ymdrechion sylw Brenin Lloegr, Harri III, a osododd ddirwy fawr ar yr abaty, o ganlyniad i weithred 'wrthryfelgar' un o'r mynachod yn ôl pob tebyg. Nid oedd modd i'r abaty ysgwyddo'r faich ariannol a daeth y gwaith o'i ailddatblygu yn gadeirlan genedlaethol i ben yn ddisymwth.
Ymosodwyd ar yr abaty unwaith yn rhagor ym 1402, yn ystod gwrthryfel Glyn Dŵr, pan gipiwyd ef gan y teulu Mortimer. Cafodd yr adeilad ei ddifrodi'n sylweddol ac ni lwyddodd i adennill ei safle.
Yn ôl tystiolaeth un o'r croniclau, yn Abaty Cwm-hir y claddwyd corff Llywelyn ap Gruffudd wedi ei farwolaeth yng Nghilmeri, ger Llanfair-ym-Muallt, ym 1282.
Ffynhonnell: Amgueddfa Sir Faesyfed

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (1)

Anonymous's profile picture
suggests slow further

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw