Skip to main content

Gwisg Gymreig: het i ferched, 19eg ganrif

Disgrifiadau

Het Gymreig ag ymyl llydan o ail hanner y 19eg ganrif. Perchennog gwreiddiol yr het hon oedd Mrs Edwards o Lanilar (ganed tua'r flwyddyn 1850). Roedd hetiau o'r fath yn ffasiynol iawn pan oedd yn ferch ifanc ond daethant yn fwyfwy amhoblogaidd wrth i'r ganrif fynd yn ei blaen. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roeddynt yn hynodbethau a fyddai'n cael eu gwisgo'n bennaf ar Ddydd Gŵyl Dewi ac achlysuron gwladgarol eraill. Serch hynny, roedd rhai gwragedd oedrannus yn parhau i ddefnyddio hetiau eu hieuenctid ac yn parhau i'w gwisgo ar achlysuron arbennig, fel rhan o'u gwisg gorau. Fel gwraig oedrannus, fe ymddengys bod Mrs Edwards wedi gwisgo ei het Gymreig i fynd ar drip i'r dref leol (Aberystwyth yn ôl pob tebyg) gyda ei merch ar ddiwrnod allan. Yn ôl y dystiolaeth anecdotaidd sy'n goroesi, tra oeddent yn y dref cawsant eu cyfarch gan griw o fechgyn lleol a ofynnodd a oeddynt yn mynd i'r rasys. Gofynnodd un lle'r oedd y rasys yn cael eu cynnal ac fe atebodd un arall mewn hwyl 'Ar ymyl het yr hen wraig.' Roedd Mrs Edwards wedi'i siomi cymaint fel yr aeth ar unwaith i siop leol i brynu bonet mwy ffasiynol. Fe ymddengys iddi benderfynu yn y fan a'r lle i beidio â gwisgo'r het fyth eto. Cyflwynwyd yr het i Amgueddfa Ceredigion nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach gan aelod o'i theulu.

Disgrifiad yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Amgueddfa Ceredigion.

Owner:
Ceredigion Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Ceredigion
Copyright Details:
Amgueddfa Ceredigion 2003
Publisher Ref:
GTJ23435
Eitem wedi’i llwytho:
15/2/2010
Date originally created:
1850-1899
Gwelediadau:
1352
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment