Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Anfonwyd Edward George Mills i Ganada yn 1923 fel ymfudwr pan yn blentyn gan y 'Waifs and Strays Society. Er y byddai'n cael ei ystyried yn oedolyn heddiw, ar y pryd hwnnw doedd ganddo ddim rheolaeth dros ei fywyd
hyd nes ei fod yn 21 oed, a rhoddwyd gwybod iddo bod yn rhaid iddo ymfudo, ac y byddai'n rhaid iddo ofalu am y plant llai ar y ffordd. Fe wnaethon nhw ddweud celwydd wrtho gan ddweud y byddain gael tir rhydd yng
Nghanada. Roedd yn brofiad dychrynllyd a chymerodd flynyddoedd iddo gynilo digon o arian i brynu tocyn i ddod adref. Yn y DG yn 1931 tybiai y byddai'n gallu chwilio am waith, ond roedd hi'n adeg y Dirwasgiad;
felly meddyliodd y gallai ddychwelyd i Montreal lle bu iddo gael ei gyflogi fel arlunydd yn Sw a Ffair Montreal. Aeth ar ei feic i'r Barry yn y gobaith o sicrhau gwaith ar y ffordd, ond yn lle hynny,
cafodd swydd yn Ffair Ynys y Barri fel artist. Yno cyfarfu ag Olwen Gwyneth John a oedd wedi cael swydd dros yr haf yn y stondin saethu, a hithau'n 16 ar y pryd. Bu i'r ddau briodi ac ymgartrefu yn Cardiff Road
lle buont yn byw hyd nes iddo farw yn sydyn yn Ysbyty Sully yn 1998 yn 96 mlwydd oed.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw