arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Mae fy mrawd, Alan yn gyrru'r trelar tipio Ferguson gydag ochrau estynedig er mwyn gallu cario hyd at 3 tunnell o farlys. Does dim angen i'r cynaeafwr stopio, mae'r trelar yn cael ei yrru ochr yn ochr ag o. Roedd dau o'r rhain ganddon ni.
Roedden ni'n gallu cadw'r cynaeafwyr i fynd, gan gadw at drefn o redeg gwasanaeth yn ol ar hyd y fferm ac ar draws y ceunant i'r hen sied wartheg, a oedd bellach wedi ei droi yn sied i sychu a storio grawn. Roedd dau o blant y fferm (Gerhard a Susie Lenkeit) yn mwynhau'r
trip ar hyd y fferm yn y trelar - y cyfan yn gyfreithlon bryd hynny.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw