23 Belio gwair o das, 1952
Disgrifiadau
Yma, yn y gaeaf, rydym newydd ddod i ddiwedd tas fawr mewn cae yn y pellter. Jones Cub yw'r peiriant belio - fe'i gwnaed yn yr Wyddgrug yng ngogledd Cymru. Cafodd ei gynllunio ar gyfer clymu gyda weiren; cafodd ein peiriant ni ei newid ar gyferclymu gyda chortyn bêl. Mae Alan Bush ar fin gwthio'r nodwydd fachyn ddwbl drwy'r siambr rhwng trawiad yr hyrddiad nesaf. Bydd y trawiad nesaf yn cydio gan ollwng y llinyn ar y bachau, gan ganiatau iddo dynnu'r nodwyddau a dolen llinyn.Yna mae'n torri'r ddolen, gan gadw'r pen cywir yn ei law chwith fel ei fod yn cael ei glymu i'r un olaf sydd eisoes yn hongian. Mae Basil Phillips yn stacio'r bêls ar drelar. Mae Dai Jones yn fforchio'r gwair sy'n weddill.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment