Melin Llynnon, Llanddeusant, Ynys Mn [Delwedd 1 o 10]
Disgrifiadau
Mae'n bosib mai gan Ynys Mn mae'r hinsawdd mwyaf addas yng Nghymru ar gyfer tyfu cnydau megis gwenith a haidd, ffactorau a enillodd iddi'r enw 'Mam Cymru'.
Yn fuan yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Ynys Mn oddeutu 50 melin wynt oedd yn gweithio a bron cymaint o felinau dŵr. Gellir gweld adfeilion y melinau gwynt hyn hyd heddiw yn frith ar hyd y wlad.
Melin Llynnon yw'r unig un i gael ei hadfer i'w chyflwr gweithio gwreiddiol ac erbyn hyn mae'n cynhyrchu blawd unwaith eto. Adeiladwyd y felin ym 1775 gan gostio ychydig dros 550 ac fe weithiodd hyd 1918, pan ddioddefodd ddifrod difrifol mewn storm arw. Roedd yn adfeilion am dros hanner can mlynedd nes iddi gael ei hadfer a'i hailagor fel melin wynt sydd ar waith a safle amgueddfaol ym 1984.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment