Hoelen o'r llong 'Royal Charter', a ddrylliwyd oddi ar arfordir Ynys Môn ym 1859
Hoelen o'r llong 'Royal Charter', a ddrylliwyd oddi ar arfordir Ynys Môn ym 1859
Disgrifiadau
Yn Hydref 1859, trawyd Ynysoedd Prydain gan gorwynt dinistriol. O fewn deuddydd, suddwyd cymaint 133 o longau a chollwyd tua 800 o fywydau.
Roedd y 'Royal Charter', cliper ager a hwyliai rhwng Awstralia a Lerpwl, ymysg y llongau a gollwyd yn ystod y corwynt. Roedd bron chyrraedd pen ei thaith o Melbourne i Lerpwl, pan aeth i drafferthion oddi ar arfordir Ynys Môn. Lladdwyd mwy na 400 o bobl yn y storm a chollwyd llwyth o aur o Awstralia oedd werth oddeutu 322,000.
Buasai nifer y rhai a foddwyd wedi bod yn uwch heblaw am ddewrder pobl Moelfre, a ymunodd 'i gilydd i ffurfio cadwyn a fu'n fodd i achub bywydau deugain o unigolion.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment