Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r carchar, a gynllunwyd gan y Meistri Hansom a Welch o Gaerefrog, a'i adeiladu ym 1829, wedi ei leoli heb fod ymhell o ganol tref Biwmares. Gyda'i furiau carreg uchel a'i fynedfa cadarn, mae i'r adeiladwaith ciwbig hwn ymdeimlad o argoel ddrwg ac anobaith. Mae'r un awyrgylch ddigalon yn meddiannu'r tu mewn. Ar ddau lawr, mae coridorau hir, tywyll yn arwain i'r celloedd a'r ystafelloedd gwaith ac mae bariau haearn yn gwahanu pob asgell.

Gosodwyd golau nwy yn y carchar ym 1857 a dechreuodd system cyflenwi dwr, a yrasid gan olwyn draed dynol, gael ei gweithredu ym 1867. Mae'r awyrgylch o fewn yr asgell newydd, a ychwanegwyd at y carchar ym 1867, yn wahanol i'r asgelloedd hyn. Mae'n adlewyrchu'r newid o Drefn Distawrwydd (ble gwaherddid y carcharorion rhag cyfathrebu

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw