arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Mae 'Drybridge House' yn sefyll ychydig y tu hwnt i'r Bont Mynwy hynafol a maenordy oedd yn wreiddiol. Ym 1867 daeth Charles Henry Crompton-Roberts, AS etholaeth yng Nghaint, i feddiant y tŷ. Ymunodd un o'i feibion, Charles Montague Crompton-Roberts, Chatrawd Sir Fynwy, gan wasanaethu trwy gydol diwedd y cyfnod Fictoraidd a'r cyfnod Edwardaidd, gan ddod yn Is-gyrnol Anrhydeddus yn y diwedd. Efallai mai un o'r dynion a welir yma ydoedd.

Roedd y teulu'n gyfoethog ac yn gymwynaswyr lleol. Roedd ganddynt eu maes criced eu hunain ble chwaraeodd W. G. Grace ar un adeg. Heriodd un o'r merched ei theulu trwy briodi ei hathro cerdd ifanc, Edward Elgar, a ddaeth yn gyfansoddwr byd-enwog yn ddiweddarach.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw