Milwyr Catrawd Sir Fynwy, gyda Cyrnol J. F. Vaughan, ar risiau Castle House, Trefynwy, 1869
Milwyr Catrawd Sir Fynwy, gyda Cyrnol J. F. Vaughan, ar risiau Castle House, Trefynwy, 1869
Disgrifiadau
Mae Cyrnol Vaughan ynghanol y llun, yn y rhes gefn.
Gwasanaethodd Cyrnol John Francis Vaughan gyda Chatrawd Sir Fynwy am ddeugain mlynedd. Pan ddechreuodd y rhyfel yn y Crimea, ni chaniateid i'w gatrawd ymladd dramor, gan mai Byddin Sir ydoedd, nid byddin arferol. Fodd bynnag, talodd Cyrnol Vaughan am ei docyn ei hun a theithiodd i'r Crimea er gwaethaf popeth. Pan welodd amgylchiadau byw erchyll y milwyr, ysgogwyd ef i ysgrifennu pamffled dylanwadol ar y pwnc a gyhoeddwyd yn ddienw.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment