Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd Hirsch Grunis yn weinidog ym Mangor yn yr 1930au. Yr oedd hefyd yn weinidog yn Nhonypandy. Mae'n bosib hefyd iddo fod wedi gwasanaethu yn Nhredegar. Mae ei fab wedi awgrymu bod Hirsch wedi siarad am ymweld â Betws-y-coed yn ogystal. Ar gefn y llun hwn mae stamp dyddiad "27 June 1939".Roedd Hirsch yn fab i Rabbi Asher Grunis gafodd ei eni yn Pietrokov yng Ngwlad Pwyl yn 1877. Roedd yn blentyn dawnus ac yn bedair ar bymtheg oed cafodd ei benodi yn Rabbi Wilczyn yng Ngwlad Pwyl. Priododd Hannah Baila yn 1896 a chawsant saith mab ac un merch. Yn 1921 cagodd ei benodi yn Rav cymunedol cyntaf Caerdydd, er mwyn goruchwylio gweithredu cyfreithiau deietegol crefyddol Iddewig. Daeth pump o'r meibion (yn cynnwys Hirsch) ac un ferch gyda'u rhieni i Gaerdydd. Bu farw ym mis Gorffennaf 1937 ac mae ef a'i wraig wedi eu claddu ym mynwent Iddewig Highfields. O archif deuluol Grunis, a fydd yn cael eu hadneuo yn y Llyfrgell Genedlaethol (Campws Edward J. Safra) yn y Brifysgol Hebraeg, Jeriwsalem.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw