Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yn ôl y llyfr “40 Mlynedd o Rygbi”:

“Ym 1985 derbyniodd Andrew Lloyd o’r Grîn, blaenasgellwr gyda’r Tîm Cyntaf, yr anrhydedd o gynllunio a chreu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl a’r Cyffiniau. Yn ffodus, roedd teilyngdod, a Robat Powel oedd y bardd buddugol gyda’i awdl yn dwyn y teitl ‘Cynefin’. Yn ogystal â hyn roedd aelod o’r Clwb, John Idris Owen, yn gyn-enillydd y Fedal Ryddiaith, gydag aelod arall, Gareth Rowlands wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas. Oherwydd hyn, daeth Mr Les Phillips i’r casgliad mai Clwb Rygbi Dinbych oedd y Clwb mwyaf diwylliedig yng Nghymru!”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw