Cwmni Lager Wrecsam

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,877
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,140
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,460
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,534
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Wrecsam – Y dref lager




'Lager Town' oedd llysenw Wrecsam am flynyddoedd. Ar un adeg roedd 19 o fragdai yn y dref a'r hynaf oedd Cwmni Wrexham Lager Beer, a fu'n weithredol rhwng 1881 a 2000. Mae awgrym cryf mai hwn oedd y bragdy lager cyntaf ym Mhrydain.



Y rheswm fod cymaint o gwrw'n cael ei fragu yn Wrecsam oedd y cyflenwad da o ddŵr o dan y dref, a'r dŵr yn gyfoethog mewn mwynau. Roedd y dŵr yn addas iawn ar gyfer tyfu barlys. Daeth Wrecsam yn brif ganolfan bragu cwrw yng Nghymru. Yn ôl George Borrow, a deithiodd Cymru ym 1854, yr unig Gymraeg oedd gan drigolion Wrecsam oedd “Cwrw Da”, heb hyd yn oed “os gwelwch yn dda” yn ei ddilyn!  




Wrexham Lager Beer Company




Sefydlwyd  cwmni 'Wrexham Lager Beer Company' ym 1881 gan ddau fewnfudwr o'r Almaen, Otto Isler ac Ivan Levinstein. Nid oeddent yn hapus iawn gyda'r cwrw lleol, ac o'r farn y byddai lager tebyg i gwrw'r Almaen yn boblogaidd ym Mhrydain. Penderfynwyd ar leoli'r bragdy yn Wrecsam gan fod y dŵr yn debyg i'r dŵr ym Mhilsen, yn y Weriniaeth Tsiec.



Dechreuwyd ar adeiladu'r bragdy ym 1882, ond roedd y bobl leol o'r farn fod yr ardal yn rhy boeth i'r cwrw. Erbyn 1883, cawsant eu profi'n gywir. Nid oedd y seler yn ddigon oer i greu'r lager aur fel y gobeithiwyd, ond yn bwysicach efallai, nid oedd y bobl leol am yfed y ddiod newydd!



Roedd y cwmni'n wynebu mynd i'r wal, nes i Ivan Levinstein gyfarfod â Robert Graesser ar drên o Lerpwl. Diwydiannwr yn berchen ar weithfeydd cemegau yn Acre-fair oedd Graesser. Roedd yn berchen ar oergell ddiwydiannol, ac fe gredai y gallai ei defnyddio i oeri’r seleri. Ymunodd Graesser â'r cwmni. Erbyn hyn, roedd y cwmni wedi dechrau ennill gwobrau am fragu cwrw, ond yn anffodus, gan fod tafarndai wedi'u clymu mewn cytundebau gyda bragdai eraill, prin oedd y lleoedd yn Wrecsam a fedrai gwerthu cwrw'r cwmni. Aeth Wrexham Lager Beer Company i'r wal ym 1892.




Ail-lansio’r cwmni




Dyn ystyfnig iawn oedd Robert Graesser, ac ail-lansiodd Wrexham Lager Beer Company gan anelu am ddwy farchnad fawr; yr ymerodraeth a'r fyddin. Bu milwyr yn y Sudan yn yfed lager Wrecsam cyn iddynt frwydro - a cholli - yn erbyn byddin Mahdi ym 1898.



Roedd y lager yn teithio'n dda hefyd. Gwerthwyd y cwrw ar longau teithio Môr yr Iwerydd, a daeth y cwmni'n llwyddiannus. Cyflenwodd y cwmni longau teithio'r “White Star Line”, ac mae'n debyg fod poteli Wrexham Lager Beer Company ar fordaith anffodus y Titanic o Lerpwl i Efrog Newydd ym 1912.



Roeddent yn bragu pedwar gwahanol lager: “Golden Pilsener”, “Dark Bavarian Lager”, “Light Lager” ac “Unfiltered Dark”. Roedd yr olaf yn boblogaidd iawn, yn enwedig gyda'r glowyr lleol, gan ei fod fel pryd o fwyd ar ei ben ei hun.




Yr Ugeinfed Ganrif




Teulu Graesser fu'n rheoli'r bragdy'n llwyddiannus iawn tan 1949. Cafwyd trafferth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan gafodd y prif fragwr o'r Almaen, Julius Kolb, ei garcharu ar ynys Manaw yn estron annymunol. Gyda theimladau'n cryfhau yn erbyn yr Almaen, roedd y cwmni'n bryderus, ond yn y pendraw ni chafodd teulu Graesser unrhyw broblemau.



Wedi'r rhyfel cafodd y bragdy amser anodd. Roedd lager Wrecsam o hyd yn ennill gwobrau yn y 1980au, ond gyda gwerthiannau'n gostwng, bu raid i'r bragdy gau yn 2000. Cafodd adeiladau modern y bragdy eu dymchwel yn 2002-3, ond mae'r adeilad gwreiddiol, hanesyddol, yn sefyll o hyd.



Ym mis Gorffennaf 2011 cafwyd datganiad y byddai Lager Wrecsam yn dychwelyd i dafarnau Wrecsam wrth i gyn-reolwr bragu'r cwmni ynghyd â dynion busnes o'r ardal geisio ail-greu'r lager lleol mewn micro-bragdy newydd.