'Y Dewin Cymreig'

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,717
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,303
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,994
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Cyrraedd y brig




Ar 7 Rhagfyr 1916 daeth David Lloyd George y Cymro cyntaf i fod yn Brif Weinidog ar Brydain Fawr.



Chwe blynedd ar hugain ar ôl iddo fynd i'r Senedd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon  gyda mwyafrif bychan, roedd y cyfreithiwr Anghydffurfiol, Cymraeg ei iaith, a gafodd ei fagu yn Llanystumdwy, wedi llwyddo i ddringo i frig llywodraeth Prydain.




Rhyddfrydwr Cymraeg




Drwy gydol ei yrfa, roedd achosion Cymreig fel Datgysylltiad yr Eglwys a chofrestru tir yn ganolog i'w wleidyddiaeth.  Ond daeth i'r amlwg ym Mhrydain am ei wrthwynebiad angerddol i Ail Ryfel y Bőer (1899-1902).  Er i'w weithredoedd fygwth undod y Blaid Ryddfrydol, a'i rhannu'n ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn y rhyfel, roedd ei ymosodiadau yn erbyn Deddf Addysg y llywodraeth (1902) wedi helpu i uno'r Rhyddfrydwyr.  Cryfhawyd ei enw ymhellach wedi iddo gynnig gwelliant llwyddiannus i'r Ddeddf a'i gwnaeth yn amherthnasol.



Enillodd ei fri le iddo yng Nghabinet Rhyddfrydol Henry Campbell-Bannerman ym 1906 yn Llywydd y Bwrdd Masnach.  Blinodd ei ddulliau anarferol yn ei waith gweinidogaethol lawer o bobl, ond roeddent yn ysbrydoli eraill, ac ym 1908 daeth yn Ganghellor y Trysorlys pan aeth Asquith yn Brif Weinidog yn dilyn marwolaeth Campbell-Bannerman.




Cyllideb y Bobl




Prif gymhelliad Lloyd George fel Canghellor oedd Diwygio Cymdeithasol ac roedd ei 'Gyllideb y Bobl' ym 1909 yn ceisio cyflwyno pensiynau hen bobl, budd-daliadau i'r di-waith a chefnogaeth ariannol wladol i'r anghenus.  Gwrthodwyd y gyllideb gan Dŷ'r Arglwyddi ym 1909 ond gwrthododd Lloyd George encilio.  Daeth y gyllideb yn gyfraith ym 1910 ac ym mis Awst 1911 pasiwyd Deddf y Senedd, a oedd yn cyfyngu'n barhaol ar bwerau'r Arglwyddi ac yn clirio'r ffordd tuag at hunanlywodraeth yn Iwerddon a datgysylltiad yng Nghymru.




Prif Weinidog Rhyfel




Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, er iddo gael ei ystyried yn heddychwr, derbyniodd Lloyd George yr angen am ymglymiad Prydain, ac ym 1915 daeth yn Weinidog Arfau.  Roedd ei egni a'i ewyllys yn nodweddion gwerthfawr yn ei rôl newydd ac ym mis Gorffennaf 1916 cafodd ei benodi'n Weinidog Rhyfel.  Ar 7 Rhagfyr y flwyddyn honno cymrodd drosodd oddi wrth Asquith yn Brif Weinidog a chymrodd yr awenau ac arwain Prydain drwy'r Rhyfel.



Pan ddaeth heddwch ym 1918 roedd poblogrwydd y ‘Dewin Cymreig’yn ei anterth. Maeei rôl yn y trafodaethau yn Versaillesa'i gyfraniad i ganlyniad y cyfamod wedi cael eu trafod yn helaeth er ei fod yn ymddangos fod ei safle rhywle yn y canol, rhwng Wilsona Clemenceau.  Yn dilyn Versaillesbu'n brysur iawn gyda pholisïau cartref a heriau gwleidyddiaeth wedi'r Rhyfel.  Roedd ei Lywodraeth yn ddibynnol ar y Ceidwadwyr a daeth y perthynas hwn yn fwyfwy tyn wrth i'r blynyddoedd basio.  Ym 1922, bu Lloyd George ynghlwm mewn 'sgandal anrhydeddau' ac roedd yn ymddangos ei fod ef a'i gynorthwywyr wedi bod yn gwerthu anrhydeddau am arian.  Daeth hyn â diwedd i'w swydd prif weinidog, er bu'n Aelod Seneddol ar y meiciau cefn tan 1945.



Cafodd David Lloyd George ei ddyrchafu'n Iarll Lloyd George o Ddwyfor ym 1945.  Bu farw ar 26 Mawrth 1945 yn ei gartref, Tŷ Newydd, Llanystumdwy.