Y Gymraeg heddiw

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,219
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Stori lwyddiannus?




 Y Gymraeg oedd un o'r ieithoedd cyntaf i gael ei bygwth gan ledaeniad Saesneg ar draws y byd. Mae'n wyrth ei bod hi wedi goroesi o gwbwl. Dim ond un o bob pump o boblogaeth Cymru sy'n siarad yr iaith. Ar wahân i ambell i blentyn ifanc iawn, gall pawb sy'n siarad Cymraeg siarad Saesneg hefyd. 



Ac eto, o safbwynt ieithoedd dan fygythiad, llwyddiant yw'r Gymraeg. Dangosodd cyfrifiad 2001 fod nifer a chanran y Cymry Cymraeg yn cynyddu am y tro cyntaf ers dros ganrif. Ym 1991 roedd 508,000 o bobl, neu 18.7% o'r boblogaeth, yn medru Cymraeg. Erbyn 2001 roedd y nifer wedi cynyddu i 582,000, sef 20.8% o'r boblogaeth. 




Paradocsau




 Mae cyferbyniadau diddorol yn y data: nid yr ardaloedd sydd â'r canrannau uchaf o Gymry Cymraeg yw'r ardaloedd lle mae'r niferoedd uchaf yn byw. Mae mwy o Gymraeg i'w chlywed yn y gorllewin nag yn nwyrain Cymru. Yng Ngwynedd, mae cymaint â 69% o'r boblogaeth yn medru Cymraeg, ond 11% yn unig sy'n medru'r iaith yng Nghaerdydd. Ac eto mae mwy o Gymry Cymraeg yn byw yn y trefi a'r dinasoedd nag sydd yng nghefn gwlad, a mwy o siaradwyr Cymraeg yn y de nag sydd yn y gogledd. Tua 78,000 o Gymry Cymraeg sy'n byw yng Ngwynedd, er enghraifft, sy'n llai na'r nifer yn sir Gaerfyrddin lle mae 50% o'r boblogaeth yn unig yn medru Cymraeg. Tra bu cynnydd calonogol yng nghanran siaradwyr yr iaith mewn ardaloedd Seisnigedig fel Caerdydd, gostwng wnaeth nifer yr ardaloedd lle mae dros 80% o'r trigolion yn medru Cymraeg. 



Y ffactorau mwyaf allweddol o safbwynt cynyddu'r nifer sy'n medru'r Gymraeg yw llwyddiant ysgolion Cymraeg a'r cynnydd yn nifer yr oedolion sy'n dysgu'r iaith. Dyma'r trydydd cyfrifiad i ddangos cynnydd yn y nifer o bobl ifainc sy'n medru'r iaith. Roedd 26% o'r boblogaeth dan 35 oed yn medru Cymraeg - 9% yn fwy nag oedd ym 1991. 



Nid yng Nghymru yn unig mae pobl yn siarad Cymraeg. Yn ôl arolygon a gomisiynwyd gan S4C, mae dros 200,000 o bobl yn medru'r Gymraeg yn Lloegr. Yn y Wladfa yn ardal Chubut ym Mhatagonia mae tua mil neu ragor o ddisgynyddion ymfudwyr o Gymru yn dal i fedru'r Gymraeg yn ogystal â Sbaeneg. 




Enghraifft: siaradwr o Gaernarfon




 Dyma glip fideo o Gwil Pritchard o Gaernarfon yn siarad yn ei dafodiaith leol - iaith y Cofi. Yn y bennod nesaf, cewch glywed Gwil yn sôn am ei gefndir ieithyddol a'r gwahaniaethau rhwng iaith Caernarfon a iaith Bangor. Mae iaith y Cofi yn enghraifft brin o dafodiaith drefol Gymraeg. 




Iaith y Cofi - tafodiaith drefol




 Fe gesh i 'magu yn C'narfon, a iaith y cartre oedd Cymraeg. Ac odd hynna'n wir am yr ardal o gwmpas C'narfon hefyd - pobol oddan ni'n nabod, ffrindia, y teulu i gyd yn siarad Cymraeg yn yr ardal yna. Yr un peth yn wir hefyd yn yr ysgolion — ysgolion cynradd, uwchradd, pob dim yn y iaith Gymraeg.



Byw yn G'narfon, 'dach chi yn gal y teimlad bod o yn, mewn ffordd, iaith ei hun, mewn ffordd. Ma jest yr acen a'r geirie 'dach chi'n ddefnyddio yn wahanol i lefydd erill. A ma pobol erill yn sylwi ar hynny hefyd, pan 'dach chi'n siarad efo nhw. 



I ddechra, y gwahaniath rhwng Bangor a G'narfon. Wel 'sach chi'n meddwl bod 'na ddim - naw milltir sydd rhwng y ddau le, ond ma Bangor, man nhw yn famous, os liciwch chi, i gal 'u Bangor ais', achos man nhw'n deud 'ai' ar ôl bob dim. Ond yn G'narfon mae'n 'ia' ar ôl pob dim. A pan dwy'n deud ar ôl pob dim, mae ar ôl pob dim, de. 'Wbath ma rhywun yn deud - "Ti'n mynd allan heno?" - yn lle jest deud 'ia', bysa rhaid nhw fynd "Ia, ia."