Tafodiaith Rhosllannerchrugog

Eitemau yn y stori hon:

• 2,303
• Use stars to collect & save items mewngofnodi
• 1,000
• Use stars to collect & save items mewngofnodi

Nodweddion cyffredinol

Er bod llawer o nodweddion Cymraeg Rhosllannerchrugog yn cysylltu'r dafodiaith â'r Gogledd-ddwyrain a'r Canolbarth, y mae i iaith y 'pentref mwyaf yng Nghymru' ei hunaniaeth ei hun. Yn ei gyfrol o atgofion, Rhosllannerch-rugog (1955), tystia'r Parchedig William Phillips am y berthynas rhwng trigolion y Rhos a'r sawl a drigai ym mhentrefi cyfagos y Cefn-mawr a'r Coed-poeth; yr oedd i nodweddion tafodieithol ran amlwg yn niffinio'r gwahaniaethau:  Os bu ysbryd y llwyth yn teyrnasu trwy ardal o gwbI wel trwy ardal y Rhos y gwelais i ef yn teyrnasu ar ei gryfaf. Dyna'r pam yr edrychais i a'm cyfoedion, fel y gwnaethai ein teidiau o'n blaenau, yn gilwgus onid hefyd braidd yn ddirmygus ar bobl y Cefn; ac am yr un rheswm y teimlem yn gas tuag at bobl Coedpoeth. Hwntws oedd y naill; pobl 'r ochr draw oedd y Ileill. Pobl y Cefn yn methu yngan y llythyren 'h' gan gyfeirio at 'fy nad' yn Ile fy nhad; holi wedyn am waith yr 'Afod' ac nid am yr Hafod, a gofyn 'be magat ti gyn?' a ninnau'n fawr gwell am y clawdd yn gofyn 'be sgin ti?' Ar yr ochr arall inni soniai brodorion Cypoeth am ryw 'Ffewyth John' ac am 'ffet i' a gollwyd yn y gwynt, a ninnau bob amser yn sôn am 'yng ngewyth Sam' ac am 'yng nghet'.

Diffinnir y dafodiaith yn un ogleddol gan:    Geiriau fel rwan, allan, ac efo. Yr u mewn geiriau fel capelydd, Sul, a credu. Dylid nodi, fodd bynnag, fod ansawdd y sain gryn dipyn yn wahanol i'r hyn a glywir gan Mrs Hughes o Lannerch-y-medd. chw yn chwech, chweugen, a chwislo.

Yn y sillaf olaf, swnio'r e a wneir yn y Rhos ac er nad yw ansawdd y llafariad yn gwbl debyg i'r hyn a gafwyd yn Llansannan, mae'n cysylltu'r dafodiaith â'r Gogledd-ddwyrain.

Ar wahân i'r oslef, rhai o'r nodweddion sydd yn rhoi i dafodiaith ardal y Rhos ei naws arbennig yw: Y ffurfiau gweled, 'chefn 'drachefn', a nene. Ansawdd y llafariaid mewn geiriau fel deg, lle, chwe, Rhos, nos. O'u cymharu â'r hyn a geir yn Llannerch-y-medd neu Lansannan, mae'r llafariaid hyn yn feinach - neu (a defnyddio'r term technegol) yn fwy caeëdig - ac ar y gwrandawiad cyntaf gallant swnio'n debyg iawn i ddeuseiniaid (e.e. deig a Rhows). Clywir llafariaid 'main' yn y goben hefyd mewn rhai geiriau, e.e. gwely, lle y mae'r e yn debyg i'r hyn a geir yn hen. Ond mewn geiriau eraill fel gweled, bydd yr e yn debycach i'r sain sydd yn pen.

Nodwedd gymhleth yw hon nad hawdd ei disgrifio mewn termau annhechnegol. Mae'r llafariaid 'main', fodd bynnag, yn tueddu i ddigwydd pan fo i, u neu w yn eu dilyn yn y sillaf olaf; fe'u clywir, felly, yn arbennig, capelydd a meddwl, ond nid yn gweled, Gwener na pethe.

Ceir patrwm tebyg yn achos o: nid yw'r llafariad mewn geiriau fel honno a hollol yn wahanol iawn i'r hyn a ddisgwylid. Mae torri, fodd bynnag, yn swnio'n debyg i 'Tori', a hynny am fod i yn y sillaf olaf yn peri i'r o 'feinhau'. Fel y prawf enghraifft yn y darn o Fryn-crug, mae'r nodwedd hon yn ymestyn drwy ran helaeth o'r Canolbarth hefyd. Am batrymu gwahanol o dan amodau tebyg, gweler yr enghraifft o Ben-caer .

Y recordiad

Och chi'n cal mynd un waith y fiwyddyn efo'r capel i'r Rhyl, a'dd o'n treat mawr. /Ie./ Trên yn mynd o'r Rhos, y capelydd yn... yn uno amser honno, yntê. O! Wel odd o'n werth weil, y trip capel yndoedd? Mynd i'r Rhyl. A dene'r unig drip och chi yn gal.

Llond y trên wedyn?

O, oedd. Trên yn llawn. Oedd. On ni'n meddwl bo' ni'n cadw... a 'chefn, ichi feddwl, odd station Rhos yndoedd yn packed yn gweled plant yr Ysgol Sul yrŵan yn mynd i'r Rhyl. Ag odd 'i'n ... odd y station ... odd y platform yn packed y noswith 'nw, pawb yn weifio ni'n dôl. Fath â dasen ni 'di bod i ffwr' yn Llunden. 'Lla i ddim credu'r peth heddiw, cofiwch. Na alla.

Na. Beth oddech chi'n neud yn Rhyl wedyn?

O, bwced a rhaw yntê. O, 'chi'm pres i wario! Nag odd. Syth i ffwr' at y swnd, yntê. O' 'ne'm pres ichi wario. Nag oedd. Chi'n lwcus amser honno dasech chi'n cal dwy geniog ne dair. Diar annwl! Ma pethe 'di newid. Wedi newid yn hollol.

Beth am y Pasg wedyn 'de?

O, odd Pasg yn adeg arbennig iawn. O' 'ne gyfarfod yn capel Mynydd Seion, a'r Annibynwyr eto yntê. A dwi'n meddwl bo' ... bron bob capel yn uno yn y gwasaneth yn Mynydd Seion. Odd nene ar nos Wener. Ar nos lau. O' 'ne ddau pregethwr yn Mynydd Seion 'rhyd y blynyddodd i gyd.

A trw'r dydd, dy' Gwener y Croglith o' 'ne wasaneth bore, pnawn a hwyr. A'r capel yn orlawn! Yn orlawn! Ag odd rhaid inni fynd, o' rhaid ni fynd. Odd o'n beth ... Wel, odd nene i'r enwade i gyd, chi'n gweld, hwn yn Mynydd Seion. Capel yr Annibynwyr yntê. Ag ... ym ... odd pobol yn cwrdd 'i gilydd chwaneg amser honno, dwi'n meddwl trw bod nw'n mynd i'r ... i'r capel a Band of Hope ag ... On nw'n ddallt bobol yn sâl. Dach chi'n gweld, Oddyn nw ... man nw'n câl chwaneg o help hiddiw, ond câl chwaneg o gymwynas a cyfeillgarwch yr amser sy 'di mynd. Pawb yn cofio am rŵun odd yn sâl, yntê. Dene 'di gwahanieth.

Beth nethoch chi — beth odd ych oed chi'n gadel yr ysgol 'te?

Pedwar ar ddeg oed.

A beth nethoch chi wedyn, 'te?

O, mynd i le och chi'n deud amser honno. I weini man nw'n deud heddiw, 'nte. O ie. O ie, mynd yn forwyn.

I ble wedyn?

Mynd yn forwyn i tŷ Dr. Dafis. Hen Dr. Dafis y Rhos. A cal deg sŵllt yr wsnos. Codi chwech o gloch yn y bore, a rhy flin i mynd i'ch gwely deg o gloch yn y nos. A tân amser honno'n cal 'i gynnu yn y consulting room, surgery, dispensary, morning room a room y morynion. Pump a chwe tân isho cal 'u cynnu bob dydd. Ag aech chi'n barod i ddropio yn y nos cyn ichi fynd i'ch gwely, am ddeg sŵllt yr wsnos ...

A'dd Mam mor dlawd ... on i'n mynd getre efo'r papur chweugen on nw'n ddeud amser honno am ddeg sŵllt yntê, ag on i'n câl sŵllt yn dôl. A fydde Mam wastad yn deu' 'tha i, 'Cofia bod ti ishe rwbeth yn yr Ysgol Sul.' Allan o'r sŵllt 'na on i'n gâl. Ond diolch bod ni 'di gwbad be' 'di nene. Den ni 'di gweled ... ma 'ne fwy o werth yn y bywyd sy 'di mynd na be' sy 'ne ar ôl gynna i heddiw, yntê.

Glowyr odd pobol y Rhos amser honno. A'dd 'i'n gymdeithas glos pan odd y glowyr, chi'n gweld. 'Chos dwi'n cofio Parch. Idryd Jones, odd y fo'n byw ar Allt y Gwter. Ag odd coliars yn mynd at 'u gwaith, cerdded amser honno. Ag odd o'n deud bod o'n cal 'i ddeffro 'mpas hann' 'di pump yn bore, coliars yn chwislo ac yn canu emyne wrth fynd at 'u gwaith, i lawr y pŵll, cofiwch chi. 'A dene,' medde fo fel ene, ''aru... odd nene i mi,' medde fo fel ene, 'fel Hallelujah Chorus,' medde fo. 'On i'n methu credu bod coliars yn callu chwislo a canu mynd at 'u gwaith,' medde fo, 'hann' 'di pump yn y bore.' le.

Beth am wraig y colier wedyn? Odd digon o waith ... odd hi'n codi'n fore.

O oedd! Hithe'n codi'n fore, torri bwyd mewn tun yntê. A wedyn pan fyse colier mynd getre yn y pnawn, bath ar yr ylwyd. On nw'n gorod molchi flân y tân, yndoedd? O' gynnyn nw'm byd arall i folchi.

Nodiadau

(yr) amser honnoFel yn y rhan fwyaf o'r wlad, gwrywaidd yw amser yn yr ardal hon fel rheol. Pan oleddfir yr enw â rhagenw dangosol, fodd bynnag, tueddir i ddewis y ffurf fenywaidd. Ymddengys fod y duedd hon yn gyffredin yn y Gogledd er bod yr amser hwnnw a yr amser hynny hefyd ar lafar yno. Yn y De-ddwyrain, yn y dywediad unwaith yn y pedwar amser 'yn dra achlysurol' yn unig y bydd yr enw yn wrywaidd; ym mhob cyd-destun arall enw benywaidd ar ei ben yw amser a sonnir am amsar dda ac amsar ddifyr

'chefn 'drachefn, eto' Nodwedd ar iaith yr ardal yw'r ffurf hon; cymharer y defnydd a wneir o lïeth yn y De-orllewin.

lgweled Fel y tystia Mrs Phillips, nid ffurf lenyddol yn unig yw gweled. Ceir enghraifft bellach yn ll.46 ond mae ganddi hefyd y ffurf fwy cyffredin, gweld.

Un enghraifft yw'r pâr gweled a gweld o ferfenwau y ceir dwy ffurf iddynt, y naill yr ystyrir fel rheol ei bod yn dra ffurfiol, a'r llall yn niwtral o ran ffurfioldeb. Enghreifftiau eraill yw dyfod a dod, a gwneuthur a gwneud. Ond, fel y dangoswyd eisoes, nid yw dŵad yn ddim ond ffurf lafar ar dyfod, a deil gwneuthur i fod ar lafar mewn rhannau o'r De. Nid yw bod gweled, dyfod, a gwneuthur ar lafar, fodd bynnag, yn newid dim ar statws y ffurfiau o ran arddull a'r hyn a gawn yw eu bod yn dderbyniol ar ddau begwn eithaf yr amrediad arddulliau. Hynny yw, y mae ffurfiau ar gweled, dyfod, a gwneuthur naill ai yn dra ffurfiol neu yn dra anffurfiol.

yn dôl 'yn ôl'

swnd 'tywod' Hen fenthyciad yw hwn sydd yn gyffredin yn y tafodieithoedd. Amrywiadau yw sond a swnt, a'r ffurf olaf a geir yn yr enw Swnt Enlli. Defnyddid y gair yn lled helaeth gynt i gyfeirio at raean mân a gymysgid â bloneg er mwyn hogi pladuriau.

ceniog 'ceiniog'

blin

'Blinedig' yw'r ystyr amlwg yma, ond yn y De-orllewin nis defnyddir ond wrth ymddiheuro yn yr ymadrodd mae'n flin gen i (neu mae'n flin 'da fi).

mynd getre 'mynd adref'

Hen gŵyn gan y sawl sydd yn poeni am 'gywirdeb' iaith yw'r 'mynych ddrysu' rhwng adref a gartref. Cyn i neb ruthro i gollfarnu'r enghraifft hon, fodd bynnag, dylid nodi ei bod yn fwy na thebyg mai o tuag adref y mae'r ffurf lafar gatre yn deillio. Y mae'n bosibl mai dylanwad y ffurf cartref sydd yn cyfrif am y tr yn hytrach na dr yn getre; amrywiad llafar yw getre ar y gatre mwy cyfarwydd.

chweugen '120'

At y ceiniogau cynddegol y cyfeirir: deg swllt oedd 120 hen geiniog, hanner can ceiniog heddiw. Sonnid hefyd am ddeunaw, sef 18 ceiniog, swllt a chwe cheiniog, neu 7/12; ceiniog newydd.

nene 'yr un yna'

Nodwedd uchel yn ymwybyddiaeth brodorion y Rhos eu hunain yw mynych ddefnyddio ene, dene, a nene. Er bod ene 'yna' a dene 'dyna' i'w cael yn gyffredinol yn y Gogledd-ddwyrain, ymddengys fod nene yn gyfyngedig i'r Rhos a'r cyffiniau. Enghraifft o'r modd y gellir dyrchafu elfen dafodieithol yn arwydd o hunaniaeth leol yw i bapur bro'r cylch gael ei fedyddio yn Nene.