Ceffylau yng nglofeydd Cymru

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,863
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,274
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,285
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,034
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Merlod pwll glo

Bu ceffylau'n gweithio yn y diwydiant glo ers y dyddiau cynharaf. Byddent yn cario glo o'r glofeydd i'r cwsmer, yn gweithio injans dirwyn a phwmpio ac, yn bwysicaf oll, yn symud glo o'r ffas i'r siafft.

Ym 1878, cyfrifodd yr RSPCA bod dros 200,000 o geffylau'n gweithio mewn glofeydd ym Mhrydain.

Er mai 'merlod pwll glo' oedd yr enw cyffredin arnynt, ceffylau, yn hytrach na merlod, oedd y rhan fwyaf o'r anifeiliaid a ddefnyddid ym mhyllau glo Cymru. 

Ceffylau 13 llaw

Fel rheol, roeddent tua 15 llaw o uchder (10cm yw 'llaw' ac mae ceffylau'n cael eu mesur i'r ysgwydd). Fodd bynnag, roedd rhai merlod, tua 13 llaw, yn cael eu defnyddio i dynnu llwythi ysgafn. 

Byddai'r ceffylau pwll glo gorau'n cael eu harddangos mewn sioeau, gyda glofeydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gael gwobr pencampwr. Roedd 'ceffylau sioeau' yn cael bywyd breintiedig, ac yn cael gwaith ysgafn i gadw'u hymddangosiad dymunol.

Offeryn propaganda

Er eu bod yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu glo yn y dyddiau cyn peiriannau cludo, mae defnyddio ceffylau yn y diwydiant glo bob amser wedi bod yn ddadleuol iawn.

Dadlodd y perchnogion glo eu bod yn hanfodol yn y broses economaidd, tra oedd eraill yn gweld eu defnyddio'n greulon.

  Yn y canol, rhwng y ddwy ochr, oedd y glowyr. Efallai eu bod nhw'n cydymdeimlo â'r ceffylau ond, yn aml, gallent anwybyddu creulondeb neu hyd yn oed fod yn greulon eu hunain pe bai eu pecyn cyflog o dan fygythiad.

Pa un bynnag ai cydweithiwr bodlon ynteu gaethwas truenus oedd y ceffyl, roedd yn rhannu'r un amodau a pheryglon â'r glowyr eu hunain. Cafodd y ceffylau eu defnyddio fel offeryn propaganda gan y ddwy ochr yn ystod anghydfodau diwydiannol; bu cannoedd farw o ganlyniad i gamdriniaeth, damweiniau a ffrwydradau ond, heb eu gwaith caled, ni fyddai'r chwyldro diwydiannol wedi llwyddo.

Atgofion

Rwy'n cofio Edgar, haliwr bychan, oedd yn arfer dweud wrth ei geffyl bob bore 'Wyt ti'n mynd i weitho i fi heddi?' Yna byddai'n rhoi afal iddo. Roedden nhw'n fwy o bytis (cydweithwyr) na gweithiwr a cheffyl Len Howell, Glofa Six Bells, 1960au.

Roeddent yn cael eu rhoi yng ngofal bechgyn hurt a fyddai'n camddefnyddio'r cyfrifoldeb a ymddiriedwyd iddynt heb ofni cael eu cosbi. Roeddent yn aml yn gweithio shifftiau dwbl o 16 awr yn ddi-dor ac yn cael eu cadw dan y ddaear am flynyddoedd heb weld golau dydd. Ni fyddent yn cael unrhyw archwiliad o werth ac roedd eu bywydau'n fanllef o brotest yn erbyn creulondeb ac anghyfiawnder. The Animal World, Medi 1918.