Skip to main content

Cymru a Gemau'r Gymanwlad

Gemau cyfeillgar

Bob pedair blynedd, mae Gemau'r Gymanwlad yn cynnig cyfle i chwaraewyr yr Ymerodraeth Brydeinig gynt i gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn gwahanol gampau i dimau ac unigolion.

Mae'r gemau wedi cael eu galw'n Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig, Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, a Gemau'r Gymanwlad Brydeinig, cyn cael eu teitl presennol. Dros y blynyddoedd mae newidiadau'r enw wedi adlewyrchu'r newidiadau yn y Gymanwlad y maent yn eu cynrychioli. Gydag annibyniaeth gynyddol y cenhedloedd sy'n cymryd rhan, daeth y termau Ymerodraeth a Phrydain yn llai a llai pwysig i'r gemau. Erbyn heddiw maent yn fwy fel cymdeithas o wahanol gredau, hilion, ieithoedd, diwylliannau a thraddodiadau ar draws y byd.

Mae'r gemau'n aml yn cael eu galw'r 'Gemau Cyfeillgar', a dynoliaeth, cydraddoldeb a thynged yw'r tri gwerth craidd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad sy'n hybu datblygiad cymdeithas a lles pobl y Gymanwlad.

Datblygiad y Gemau

Cynhaliwyd y gemau am y tro cyntaf yn Hamilton, Ontario ym 1930, wedi sawl blwyddyn o drafod am ffurfio'r fath ddigwyddiad. Chwaraeon i unigolion yn unig oedd yn y rhaglen o 1930 hyd at ac yn cynnwys Gemau Victoria ym 1994. Cyflwynwyd gemau tîm fel criced 50 pelawd, pêl-rwyd merched, hoci dynion a merched a rygbi 7 bob ochr dynion yng Ngemau Kuala Lumpur ym 1998. Gollyngwyd criced o raglen Gemau 2002 a chwaraewyd pêl-fasged yng Ngemau Melbourne yn 2006. Fe fydd Gemau Delhi yn 2010 yn cynnwys hoci, pêl-rwyd a rygbi 7 bob ochr.

Chwaraeon Anabledd

Cystadlodd athletwyr anabl yn rhaglen lawn y gemau am y tro cyntaf yn 2002, gan gymryd rhan mewn detholiad o gystadlaethau medal llawn ar gyfer athletwyr gydag anabledd. Parhaodd hyn ym Melbourne yn 2006 lle bu athletwyr ag anableddau'n cymryd rhan mewn cystadlaethau athletau, nofio, tennis bwrdd a chodi pwysau.

Capten tîm Cymru yng Ngemau Melbourne yn 2006 oedd un o baraolympiaid gorau'r byd, y Fonesig Tanni Grey Thompson. Er i Tanni golli allan ar fedal yn ras 800 metr y T54, arweiniodd y tîm i ennill tair medal aur, pump arian ac un fedal efydd ar ddeg.

Cymru a'r Gemau

Cystadlodd Cymru yn y gemau cyntaf yn Hamilton ym 1930 ac mae'n un o chwe chenedl yn unig sydd wedi cymryd rhan ym mhob Gemau ers hynny. Rhwng 1930 a 2006, mae tîm Cymru wedi ennill 215 o fedalau yng Ngemau'r Gymanwlad, yn cynnwys 49 medal aur. Mae unigolion fel Colin Jackson, Howard Winstone, Iwan Thomas, Lynn Davies, Kirsty Wade a Nicole Cooke oll wedi cynrychioli Cymru, ennill medalau a thorri recordiau.

Yn Delhi 2010, capten tîm Cymru fydd y codwr pwysau Michaela Breeze. Mae Michaela wedi ennill dwy fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad, ac mi fydd yn ymddeol wedi'r gemau.

Y Gemau a Chymru

Ym 1958 daeth Gemau'r Ymerodraeth a'r Gymanwlad  Brydeinig i Gaerdydd, a'r seren oedd y paffiwr Howard Winstone a oedd yn bencampwr yn y gystadleuaeth pwysau bantam. Winstone enillodd unig fedal aur Cymru yn y gemau, ond fe enillodd y tîm dair medal arian a saith efydd hefyd, llawer ohonynt wedi'u hennill yn y ring baffio. Fe gafodd Cymru lwyddiant hefyd yn y cystadlaethau cleddyfa, rhwyfo a seiclo.

Cofeb barhaol i'r gemau yng Nghaerdydd ym 1958 oedd Pwll Nofio'r Ymerodraeth a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer y gemau. Costiodd £700,000 i'w adeiladu, ac roedd hefyd yn nodi statws newydd Caerdydd yn brifddinas. Roedd yn un o adeiladau mwyaf modern a thrawiadol y ddinas. Cafodd y pwll ei ddymchwel ym 1998 i wneud lle i adeiladau Stadiwm y Mileniwm sydd nawr yn un o dirnodau mwyaf eiconig Cymru.

Mae Gemau'r Gymanwlad yn parhau i fod yn gystadleuaeth bwysig sy'n caniatáu i chwaraewyr Cymru gynrychioli'u gwlad ar lefel ryngwladol.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment