Dau bortread crand gan Joshua Reynolds

Eitemau yn y stori hon:

  • 922
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 635
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Dwy wraig Syr Watkin Williams-Wynn




Mae Syr Joshua Reynolds (1723-1792) yn gymeriad pwysig ymysg arlunwyr Prydain. Un o'i noddwyr mwyaf brwd oedd y tirfeddiannwr cyfoethog o Gymru Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789). Erbyn diwedd y 1760au roedd incwm Syr Watkin yn caniat&âu iddo wario symiau anferth ar brosiectau adeiladu a phrynu gweithiau celf.



Ym 1769 priododd Syr Watkin y Fonesig Henrietta Somerset, merch 4ydd Dug Beaufort. Bu'n briodas fer gan i Henrietta farw tri mis yn ddiweddarach. Prynodd ei mam-yng-nghyfraith set ymolchi arianwaith, wedi'i wneud gan Thomas Heming ym 1768, i Henrietta yn anrheg priodas.



Syr Watkin Williams-Wynn a Henrietta Somerset



Mae portread cyntaf Reynolds ar gyfer Syr Watkin, Sir Watkin Williams-Wynn and Henrietta Somerset, yn ddarlun maint llawn o'r pâr mewn gwisgoedd du a phinc sy'n cyfateb â'i gilydd. Maent yn dal mygydau theatrig mewn lleoliad pensaerniol o flaen llenni a fâs anferth.



Gwelir y math yma o fâs mewn nifer o bortreadau gan Reynolds. Mae wedi'i gopio o ysgythriad o'r 17eg-ganrif gan G.B. Galestruzzi yn null Polidoro da Caravaggio.



Mae'r modelau'n gwisgo gwisg a gysylltir gyda'r peintiwr portreadau Anthony Van Dyck, a oedd yn ffasiynol o'r 1740au hyd yr 1770au. Roedd gwisgoedd du i fenywod gan Van Dyck yn anghyffredin, ac roedd yn anghyffredin i bâr wisgo dillad o'r un lliw, heblaw mewn dawns fasgiau.



Darlunnir Henrietta mewn osgo sy'n gyffredin ym mhortreadau Reynolds o fenywod, a ddysgodd gan ei athro, Thomas Hudson. Darlunnir Syr Watkin gyda golwg melancolaidd ar ei wyneb, gydag osgo sy'n gweddu i'w gorffolaeth fer, gadarn.



Er i'r darlun gael ei ddechrau fel portread priodas yn ôl pob tebyg, awgryma'r wisg ddu iddo gael ei gwblhau fel portread coffaol.



Charlotte Grenville gyda'i phlant




Mae'r ail bortread, Charlotte Grenville and her children, yn dangos ail wraig Syr Watkin. Roedd Charlotte Grenville (1754-1830) yn aelod o un o brif deuluoedd llywodraethol Prydain yn y 18fed ganrif. Hi oedd merch hynaf George Grenville (1712-70) a oedd yn Brif Weinidog ym 1763-5. Fe wnaethant briodi ym 1771, ddwy flynedd wedi marwolaeth Henrietta.



Mae'r paentiad hwn yn ei dangos gyda thri o'i phlant hynaf. Awgryma oedran y plant i'r portread gael ei baentio tua 1778.



Mae'r cyfansoddiad yn adleisio'r paentiadau o Rest on the Flight with St John the Baptist o Fenis ar ddechrau'r 16eg ganrif. Mae safle'r plant yn y darlun yn adleisio'r grŵp sydd ar y dde yn y darlun Vendramin Family  gan Titian (Oriel Genedlaethol), yr oedd Raynolds yn gyfarwydd ag ef. Gwnaed gwisg y Fonesig Charlotte yn y ffasiwn Dwrcaidd ac mae ei hosgo'n deillio o'r portreadau pastel Ladies in Turkish dress gan Jean-Etienne Liotard. Un o bortreadau mwyaf godidog Reynolds o'r 1770au yw Charlotte Grenville and her children a baentiodd pan oedd yn ei anterth.



Mae'n debygol i'r ddau bortread gostio tua £315 yr un i Syr Watkin. Fe'u paentiwyd nhw yn null y 'Grand Manner', ac maent yn mynegi'r rhinweddau yr oedd Reynolds yn eu hedmygu fwyaf yng Nghelfyddyd Uchel y Dadeni. Maent hefyd yn dangos uchelgeisiau diwylliannol Syr Watkin Williams-Wynn a'i wragedd.



Bu'r portreadau ym meddiant y teulu Williams-Wynn am dros ddwy ganrif cyn iddynt gael eu prynu gan yr Amgueddfa ym 1998. Mae gan yr Amgueddfa gasgliad ysblennydd o weithiau o gasgliad Syr Watkin yn cynnwys paentiadau pwysig gan Batoni a Mengs, ac arianwaith a chelfi wedi'u cynllunio gan Robert Adam.