Skip to main content

'Cymryd y Dŵr'

Trefi'r ffynnon

Yn ystod y 19eg ganrif, credid fod 'cymryd y dŵr' o ffynhonnau mewn trefi mewndirol yn dda i'r iechyd. Mae'r gair Spa, sy'n dod o dref Spa, yng Ngwlad Belg, yn arwydd o fodolaeth ffynnon fwynol. Credid yn yr Oesoedd Canol y byddai yfed y dŵr, sy'n cario haearn, yn gwella anhwylderau a achoswyd gan ddiffyg haearn.

Roedd tuedd i alw trefi ffynhonnau'n Wells neu Spa neu Bath ac nid oedd y prif drefi ffynhonnau yng Nghymru'n eithriadau, gyda Llandrindod, Llanfair-ym-muallt a Llanwrtyd yn dod yn gyrchfannau poblogaidd. Llandrindod oedd y mwyaf poblogaidd.

Y Dŵr yn Llandrindod Wells

Roedd Dr. Wessel Linden wedi gwneud datganiadau ynglŷn â nodweddion iachusol y dyfroedd mwynol sylffwrig yn Llandrindod ym 1756, a dechreuodd hyn ddiddordeb yn y dref. Fodd bynnag, ni pharhaodd y poblogrwydd am hir, gan fod y potensial i wneud arian yn denu gamblwyr a meddwon i'r dref. Dilynodd dirywiad nes cyrhaeddodd y rheilffordd ym 1865. Daeth y ffynhonnau'n boblogaidd oherwydd y mynediad hawdd atynt ar y trên a'r wlad hardd o'u hamgylch, ac agorodd nifer o westai, siopau a chyfleusterau eraill i gyflenwi anghenion hyd at 80,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Roedd y papurau newydd lleol yn enwi'r ymwelwyr enwog ac mae'r rhestri hyn yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i'r math o berson a oedd yn mwynhau 'cymryd y dŵr'; roeddent fel arfer yn gyfoethog, ac yn dod â llawer o weision gyda nhw.

Roedd poblogrwydd Llandrindod fel tref ffynhonnau yn ei anterth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a daeth dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf â phoblogrwydd trefi ffynhonnau a chymryd y dŵr i ben.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment