'Blitz Tri Diwrnod' Abertawe
Eitemau yn y stori hon:
Prydain mewn perygl
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu trefi a dinasoedd Prydain dan ymosodiad parhaus a didrugaredd gan lu awyr Natsïaid yr Almaen. Y prif darged oedd Llundain a de Lloegr ac roedd y difrod a achoswyd yn yr ardal honno'n anferth, a bu bron iawn i Brydain ddymchwel ac ildio. Ond nid oedd y bomio yn y de-ddwyrain yn unig ac yng Nghymru, Abertawe gafodd hi waethaf.
Targedu Abertawe
Roedd pwysigrwydd diwydiannol a phorthladd prysur Abertawe yn ei gwneud yn darged amlwg i'r Luftwaffe. Daeth yr ymosodiad cyntaf ar Abertawe ar 27 Mehefin 1940. Rhwng 1940 a 1943 bu 44 ymosodiad ar y dref, gan ladd cyfanswm o 340 o bobl.
Daeth yr ymosodiad mwyaf parhaus a difrodus ym 1941 yn ystod blitz tair noson 19, 20 a 21 Chwefror. Collodd 230 o bobl eu bywydau yn ystod y tair noson hynny a distrywiwyd llawer o Abertawe. Gwastadwyd canol y dref a difrodwyd ardaloedd fel Brynhyfryd, Townhill a Manselton yn ddifrifol.
Tridiau o fomio
Dechreuodd yr ymosodiad ychydig wedi 7.30yh ar 19 Chwefror ac ni fyddai'n dod i ben nes canu'r seiren ‘rhybudd ar ben’ tridiau'n ddiweddarach. Collodd cannoedd eu cartrefi yn ystod y cyrch a dinistriwyd nifer o adeiladau pwysig, gan gynnwys nifer o ysgolion. Roedd y difrod mor ddrwg, cafodd Abertawe ei henwi'n ardal i’w gwagio wedi'r ymosodiad, ac fe gafodd plant y dref eu symud i'r wlad i'w diogelu.
Daeth nifer o bobl bwysig i ymweld ag Abertawe. Yn fuan wedi'r blitz ymwelodd y Brenin a'r Frenhines â'r ardaloedd difrodedig, a hefyd y Prif Weinidog Winston Churchill.
Ailadeiladu Abertawe
Wedi'r rhyfel, ailadeiladwyd canol tref Abertawe. Roedd hyn yn ddadleuol ac roedd llawer yn feirniadol o'r bensaernïaeth.
Honnodd Kingsley Amis, a fu'n breswylydd yn Abertawe yn ystod y 1950au, fod ‘[a] bunch of architects/ Named this the worst town centre they could find’.