Rheilffordd yr Wyddfa

Eitemau yn y stori hon:

Trafodaethau cychwynnol




Agorwyd y rheilffordd o Gaernarfon i Lanberis ym 1869. Cyn dyfodiad y rheilffordd roedd yn rhaid i bobl gerdded neu farchogaeth asyn i gyrraedd y copa. Roedd George William Duff Assherton Smith, tirfeddiannwr lleol yn wrthwynebus i'r cynlluniau. Yn ei dyb ef byddai'r rheilffordd yn amharu ar yr olygfa a gwrthododd pob cais i ddefnyddio'i dir i'r perwyl hwnnw.



Ugain mlynedd yn ddiweddarach, penderfynwyd y gellid adeiladu'r rheilffordd o Ryd Ddu sydd yr ochr arall i'r mynydd ond achosodd hyn ofid ymysg trigolion Llanberis. Roeddynt yn gofidio y byddai’r pentref yn colli’r fasnach dwristiaeth. Mewn ymateb i’r pwysau rhoddodd Assherton Smith ganiatâd i adeiladu’r rheilffordd ar ei dir.



Ar 16 Tachwedd, 1894 ffurfiwyd y cwmni “Snowdon Mountain Tramroad and Hotels Co. Ltd”(Snowdonia Mountain Railway Co. erbyn hyn) sef y cwmni a fyddai’n adeiladu'r rheilffordd i gopa’r Wyddfa.




Sialensiau wrth adeiladu




Sicrhau diogelwch y trenau wrth ddringo i fyny llethrau’r Wyddfa oedd yr her gyntaf. Aerth y cwmni newydd, “Snowdon Mountain Tramroad and Hotels Co. Ltd” i'r Swistir gyda’r dasg o ddod o hyd i'r dechnoleg reilffordd fynydd orau. Daethpwyd o hyd i system rac a phiniwn Dr Roman Abt, peiriannydd o’r Almaen. Roedd y system yma wedi’i threialu ar lethrau’r Alpau. Ym 1895, tra oedd yn y Swistir prynodd y cwmni dri locomotif stêm i gynorthwyo â'r gwaith adeiladu, a chyrhaeddodd dau locomotif ychwanegol ym 1896 pan agorwyd y rheilffordd. Byddai'r locomotif yn gwthio'r cerbydau i fyny'r mynydd. Roedd pob cerbyd yn gweithredu’n annibynnol o’r locomotif gyda phob un â set o freciau ei hun. Pe byddai'r gyrrwr yn colli rheolaeth, byddai'r cerbydau yn gallu dod i stop gan adael i'r locomotif fynd.



Roedd y rheilffordd rac ddwbl yn sicrhau siwrnai lyfn ac esmwyth wrth i’r trên wynebu her y llethrau serth. Roedd y piniwn wedi'i osod o dan y trên, ac felly'n llwyddo i sicrhau nad oedd y trên yn colli gafael ar y ffordd i fyny'r mynydd. Y piniwn oedd yr unig afael, gyda'r olwynion yn cefnogi pwysau'r locomotif.



Torrwyd y dywarchen gyntaf yng ngorsaf Llanberis ym mis Rhagfyr 1894 gan Enid, merch Assherton Smith. Y bwriad oedd agor y rheilffordd yn ystod haf 1895, ond cafwyd gaeaf caled ym 1894 ac oherwydd y tywydd garw ni chwblhawyd y gwaith o adeiladu'r ddwy draphont fawr rhwng Llanberis a'r rhaeadr tan fis Awst 1895. Gosodwyd y trac i'r copa mewn 72 diwrnod, gyda'r trên cyntaf yn cyrraedd y copa ym mis Ionawr 1896. Ar ôl cwblhau’r gwaith ffensio a gosod signalau, agorodd y rheilffordd i'r cyhoedd yn ystod y Pasg 1896.




Agor yn swyddogol




Agorwyd y rheilffordd i'r cyhoedd ar ddydd Llun y Pasg 6 Ebrill 1896. LADAS , trên rhif 1 aeth i fyny'n gyntaf gyda’r ddau gerbyd yn llawn. Cafodd y trên ei enwi ar ôl Laura Alice Duff Assheton-Smith, gwraig y tirfeddiannwr a roddodd y tir ar gyfer adeiladu’r rheilffordd. Ymhen ychydig dilynodd Enid, trên rhif 2. Enw merch George William Duff Assheton-Smith oedd Enid. Ni chafwyd trafferthion yn cyrraedd y copa er ei bod yn ddiwrnod niwlog. Ychydig wedi hanner dydd, dechreuodd LADAS ddychwelyd i lawr y mynydd. Yn ôl y sôn roedd gyrrwr y trên, William Pickles, yn ei chael yn anodd cadw’r trên o dan reolaeth. Tua hanner milltir uwchlaw’r clogwyn, daeth y trên yn rhydd o'r piniwn. Parhaodd i ddilyn y trac i ddechrau, ond nid oedd y gyrrwr yn gallu arafu’r trên. Neidiodd y gyrrwr a'i ddyn tân allan o'r locomotif. Rhedodd locomotif LADAS am yn agos i 100 metr cyn dod i gornel, yna daeth yn rhydd o'r trac a disgynnodd dros ochr y mynydd.



Daeth y cerbydau a oedd yn cario’r teithwyr i’r unfan wrth i’r brêc awtomatig weithio. Yn anffodus neidiodd Ellis Griffith Roberts o Lanberis o’r cerbyd mewn panig. Wrth lanio tarodd ei ben ar y llawr a bu fawr o’i anafiadau. Wrth i LADAS ddisgyn o’r cledrau, fe dorrodd y llinellau telegraff a oedd yn gyswllt cyfathrebu rhwng un orsaf â'r llall. Derbyniodd yr ail drên, Enid, y signal i ddweud ei fod yn glir iddo ddisgyn. Digwyddodd yr un trychineb iddi hithau, ond y tro hwn, yn lle disgyn i lawr y mynydd, fe aeth yn syth i mewn i gerbydau LADAS a’u taro oddi ar y cledrau.



Gweithredwyd uchafswm pwysau ar y cerbydau wedi’r trychineb a chaewyd y lein am flwyddyn tra bod lein afael ychwanegol yn cael ei gosod.. Ail-agorwyd yn rheilffordd union flwyddyn ar ôl y trychineb, Llun y Pasg, 1897. Ni fu unrhyw broblem arall gyda'r lein wedi hynny.




Copa'r Wyddfa




Adeiladwyd y lloches cyntaf ar gopa’r Wyddfa ym 1820, er mwyn gwerthu lluniaeth a chynnig lloches i gerddwyr. Erbyn 1847, roedd sawl caban pren yno yn cynnwys dau westy. Roedd y cyntaf, “The Roberts Hotel”, yn cael ei redeg gan John Roberts a'r ail “Cold Club” yn cael ei rhedeg gan William Roberts (dim perthynas). Roedd cystadleuaeth ffyrnig rhwng y ddau fusnes. Yn ôl y sôn, tlawd oedd cyflwr y ddau westy ac roedd mwy o ymwelwyr nag o welyau yno yn aml iawn.



Yn dilyn trafodaethau cyfreithiol ym 1896, cymrodd y cwmni “Snowdon Mountain Tramroad and Hotels” gyfrifoldeb am y ddau westy, ac erbyn 1898, dechreuwyd ar y gwaith o ail godi’r gwesty gan ychwanegu feranda. Adeiladwyd cwt bychan ar gyfer staff y rheilffordd ar safle'r caffi presennol, ond ni bu yno’n hir. Agorwyd gorsaf fechan yn ei le. Roedd yr adeiladau hyn yn cael eu heffeithio’n fawr gan dywydd garw’r Wyddfa, ac erbyn y 1930au roedd cyflwr yr adeiladau yn wael iawn. Penderfynwyd llunio adeilad amlbwrpas yn eu lle yn cynnwys gwesty, caffi a gorsaf i'r trên. Cafodd yr hen adeiladau eu dymchwel dros ochr y mynydd i wneud lle i'r adeiladau newydd.



Cynlluniwyd yr adeilad newydd gan Syr Clough Williams Ellis, y pensaer a gynlluniodd Portmeirion, ac roedd yr adeilad yn barod ym 1935. Y nodweddion amlycaf oedd ffenestri anferth ar flaen ac ochr yr adeilad er mwyn i ymwelwyr fwynhau’r golygfeydd godidog. Yn anffodus, torrwyd y ffenestri mewn storm chwe mis yn ddiweddarach, a bu rhaid gosod ffenestri llai yn eu lle. Caewyd y caffi yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac fe’i defnyddiwyd gan y Weinyddiaeth Gyflenwadau ar gyfer gwaith radio arbrofol, ac yn ddiweddarach gan yr Awyrlu i ddatblygu radar. Bu'r Morlys yn gwneud gwaith dirgel am gyfnod yno hefyd, ond y fyddin fu'r olaf i'w defnyddio. Er gwaethaf y gwelliannau a wnaed yn y 1950au a'r 1960au, dirywio yn ddifrifol wnaeth y caffi.



Yn 2004 penderfynwyd ailadeiladu’r caffi a chreu canolfan ymwelwyr safonol. Dechreuwyd dymchwel adeilad Clough Williams Ellis ym 2006 ac unwaith yn rhagor bu’r tywydd yn rhwystr. Bu rhaid i’r gweithwyr gerdded i’w gwaith o orsaf Clogwyn yn amlach na pheidio. Claddodd disgyblion o ysgolion Beddgelert a Dolbadarn gapsiwl amser ger yr adeilad newydd. Bydd y capsiwl yn cael ei ail agor yn 2058.



Agorwyd Hafod Eryri i'r cyhoedd ar 12 o Fehefin 2009.