Scott yr Antarctig

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,763
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,307
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,246
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Dechrau'r daith





Cyrraedd Pegwn y De




Cyrhaeddodd y tîm Begwn y De ar 17 Ionawr 1912, a darganfod bod y tîm o Norwy wedi cyrraedd mis yn gynharach.  Roeddent nawr yn wynebu taith galed yn ôl gyda'r tymheredd yn rheolaidd yn disgyn o dan -30°F.  Bu farw Edgar Evans ar 17 Chwefror ac erbyn canol mis Mawrth roedd Lawrence Oates yn dioddef o ewinrhew difrifol a hen anaf o'r rhyfel ac roedd yn arafu eu taith.  Roedd yn gwybod ei fod yn rhwystro'i gymdeithion, ac anogodd iddynt fynd hebddo ond gwrthododd pawb.  Fodd bynnag, ar 16 Mawrth cyhoeddodd ei fod yn gadael y babell, a 'may be some time'.  Cerddodd allan i'r storm eira ac ni welwyd ef eto – ni ddaethpwyd o hyd i'w gorff erioed.



Parhaodd cymdeithion Oates ar eu taith ond buont farw o newyn ac oerfel yn eu pabell ar 12 Mawrth 1912, dim ond 20km i ffwrdd o'r orsaf gyflenwi ar ben eu taith.  Daethpwyd o hyd i'w cyrff gan griw chwilio wyth mis yn ddiweddarach, a cawsant eu claddu yn y babell o dan garnedd o eira ac iâ i nodi'r llecyn.




Cofio




Mae cofeb i'r alldaith ym Mharc y Rhath yng Nghaerdydd, a cheir cyfeiriadau i Scott, y Terra Nova a'r alldaith ym Mae Caerdydd.