Skip to main content

Y Bathdy Brenhinol

Y Bathdy Brenhinol yng Nghymru

Agorwyd y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn swyddogol gan y Frenhines ar 17 Rhagfyr 1968, pan ddechreuwyd y wasg gyntaf i baratoi at newid arian Prydain yn arian degol.

Ond a wyddoch chi bu bron i'r Bathdy gael ei adeiladu yn ardal Y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr?

Er i drafodaethau ddechrau ym 1959 ynglŷn â symud y Bathdy o Tower Hill yn Llundain i rywle lle na fyddai ehangu'n broblem, ni chafodd Llantrisant ei hystyried yn ddifrifol tan Chwefror 1967. Cyn hynny, ardal Y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr oedd y ffefryn yng Nghymru.  Llantrisant oedd yn bedwerydd ar restr ffefrynnau'r llywodraeth, a hynny ar ôl Runcorn yn Sir Gaer, Washington yn Tyne & Wear a Cumbernauld yng ngogledd Lanarkshire yn yr Alban.

Arian Degol

Penderfynodd y Llywodraeth ym 1966 y byddai'r wlad yn dechrau defnyddio arian degol ym mis Chwefror 1971, ac oherwydd hynny daeth y Bathdy yn Tower Hill o dan fygythiad. Roedd cynhyrchu yno wedi cynyddu'n flynyddol, ac wedi codi 46 y cant rhwng 1953/4 a 1960/1, er iddo gael ei nodi bod y lleoliad yn rhy fach yn ôl ar ddechrau'r 50au. Roedd cynhyrchu'r darnau arian degol newydd yn amhosibl iddynt, yn enwedig gan fod lleoliad Tower Hill yn drefol, ac nid oedd yn bosibl ehangu'r safle yno.

Cyhoeddwyd ym mis Ebrill 1967 mai yn Llantrisant fyddai lleoliad y Bathdy Brenhinol newydd, a dechreuwyd adeiladu ar ei gyfer. Ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn, cynhyrchwyd y darnau arian brenhinol cyntaf ar dir Cymru, a hynny ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er mwyn hyfforddi aelodau staff newydd i fathu wrth i'r adeiladau newydd gael eu hadeiladu. Erbyn diwedd 1968 roedd dros 200 o bobl yn derbyn hyfforddiant ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac wedi creu oddeutu 296.8 miliwn o ddarnau arian.

Agor ac Ehangu

James Callaghan, yr Ysgrifennydd Cartref, a osododd y garreg sylfaen ar 19 Chwefror 1968, ac fe gynhyrchwyd y darn arian gyntaf ar y safle gan y Frenhines ar 17 Rhagfyr yr un flwyddyn. Erbyn mis Awst, roedd y trafferthion cychwynnol disgwyliedig wedi cael eu datrys, ac fe gyrhaeddodd Llantrisant ei darged o 50 miliwn o ddarnau arian yr wythnos. Ym mis Hydref torrwyd record pan gynhyrchwyd 58 miliwn o ddarnau arian mewn wythnos. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd Llantrisant wedi pasio ei darged gwreiddiol a chynhyrchu mwy na 300 mil o ddarnau arian ychwanegol.

Er y cyrhaeddwyd y targed ym 1969, nid oedd Llantrisant yn Fathdy cyflawn. Nid oedd ganddynt le ar gyfer toddi, rholio na chynhyrchu darnau arian gwag, felly roeddent yn prynu rhai gwag o dri lleoliad: Y Bathdy yn Birmingham, Imperial Metal Industries Ltd, a'r Ffatri Ordnans Brenhinol.  Ond er mwyn i waith y Bathdy Brenhinol newydd gyd-fynd â gwaith Tower Hill, penderfynwyd ehangu Llantrisant. Cynhyrchwyd y darn arian olaf – sofren aur – yn Tower Hill ym mis Tachwedd 1975, ac ers hynny, mae holl ddarnau arian Prydain wedi cael eu cynhyrchu yn Llantrisant.

Y Bathdy Brenhinol Heddiw

Erbyn heddiw, mae'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn cyflogi dros 700 o bobl, ac yn  gweithio 24 awr y dydd, 52 wythnos y flwyddyn. Maent yn cynhyrchu 90 miliwn o ddarnau arian yr wythnos, sydd bron yn 5 biliwn o ddarnau arian y flwyddyn, ac maent yn allforwyr enfawr. Mae'r Bathdy'n cynhyrchu darnau arian a medalau i 60 o wledydd ar wahân i Brydain.

Yn ogystal ag arian, bydd y Bathdy Brenhinol yn cynhyrchu tua 4,700 o fedalau aur, arian ac efydd ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain ym 2012.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment