Trychineb y Royal Charter

Eitemau yn y stori hon:

Y Royal Charter




Ar 25 Hydref 1859 suddwyd y Royal Charter, agerlong a llong hwylio ar ei ffordd i Lerpwl, ar arfordir Sir Fôn mewn storm.



Roedd y llong 2,700 tunnell bron ar ddiwedd ei thaith hir o Melbourne, Awstralia, gyda channoedd o deithwyr, ac yn cario aur gwerth tua £320,000. Ym Môr Iwerddon hwyliodd y Royal Charter i mewn i storm waethaf y ganrif, gyda gwyntoedd cryfion a thonnau anferth yn peryglu'i thaith. Wrth gyrraedd arfordir gogledd Cymru, galwyd y peilot o Lerpwl ond ni fedrai fyrddio'r llong oherwydd y môr garw. Penderfynodd y capten lochesu ym Mae Moelfre yn hytrach na cheisio bwrw ymlaen am Lerpwl heb gymorth.




Llongddrylliad




Ym Mae Moelfre, trawodd tonnau 18 metr o uchder y Royal Charter, gan dorri'i hangor a thaflu'r llong ar y creigiau. Torrodd y llong yn ddau ac ysgubwyd y teithwyr i mewn i'r tonnau anferth. Ni wyddys yn union faint gollodd eu bywydau ond mae log teithwyr y llong yn awgrymu bod 388 o deithwyr a chriw o 110 ar ei bwrdd. O'r rheini, collodd 459 eu bywydau yn y môr ar arfordir Moelfre, rhai wedi'u mathru ar y creigiau ac eraill, yn ôl y sôn, wedi boddi oherwydd pwysau'r aur yn eu pocedi. Roedd 21 o'r goroeswyr yn deithwyr a 18 yn aelodau criw, dynion i gyd.



Roedd y storm a achosodd trychineb y Royal Charter hefyd yn gyfrifol am 110 o longddrylliadau eraill ar hyd arfordir Cymru.



Heddiw mae cofeb yn coffáu'r trychineb ar Lwybr Arfordirol Sir Fôn uwchlaw'r fan lle trawodd y llong y creigiau, ac mae beddau llawer a gollodd eu bywydau yn Eglwys Sant Gallgo yn Llanallgo gerllaw.