Crochenwaith Rhufeinig yng Nghaerllion

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,554
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,364
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 744
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 471
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 556
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Crochenwaith Rhufeinig




Mae astudiaeth o fath unigryw o grochenwaith a ddaeth i'r amlwg yn bwrw goleuni ar y berthynas rhwng y boblogaeth sifil a'r fyddin Rufeinig yng Nghymru.



Roedd crochenwaith yn gynnyrch a fasgynhyrchwyd yn y byd Rhufeinig ac mae'n darparu ffynhonnell gwybodaeth bwysig ar gyfer archaeolegwyr sy'n ymchwilio i hanes y cyfnod hwn. 



Mae gwahanol ffasiynau o ran ffurfiau a deunyddiau crai crochenwaith Rhufeinig yn caniatáu i archaeolegwyr ail-greu diwydiannau crochenwaith y gorffennol: ble câi'r llestri eu cynhyrchu, y llwybrau masnachol, a chronoleg anterth a thranc y diwydiannau. Roedd Cymru'n gartref i nifer o'r diwydiannau crochenwaith hyn ac mae un ohonynt wedi bod yn destun sylw a thrafodaeth ers diwedd y 1920au. 



Amffitheatr Rhufeinig Caerllion




Yn ystod y gwaith cloddio yn amffitheatr Rhufeinig Caerllion y darganfu'r archaeolegydd arloesol Syr Mortimer Wheeler, gasgliad o lestri cain o wneuthuriad da, a oedd, yn ôl pob golwg, yn gysylltiedig â'r garsiwn Rhufeinig.



Mae'r casgliad yn cynnwys amrywiaeth o jygiau, powlenni, platiau a biceri ac roedd nifer ohonynt fel pe baent yn efelychu ffurfiau'r crochenwaith metel a Samiaidd oedd yn cael fewnforio o'r cyfandir.



Gan mai Caerllion oedd cartref yr Ail Leng Awgwstaidd roedd hi'n rhesymol i dybio bod y potiau yn uniongyrchol gysylltiedig â'r fyddin Rufeinig.



Mewn gair, credai Wheeler ei fod wedi darganfod y llestri a ddefnyddiodd y lleng yn ystod yr ail ganrif OC.




Cwrs golff Celtic Manor




Yn ystod gwaith cloddio diweddarach cafwyd hyd i'r math yma o grochenwaith ar nifer o wahanol safleoedd Rhufeinig yng nghyffiniau Caerllion ac, wrth i gymaint ohono ddod i'r fei, daeth yn weddol amlwg ei fod wedi cael ei gynhyrchu'n lleol. Ond y cwestiwn oedd, ble? 



Cymerodd saith deg mlynedd o waith ychwanegol yng Nghaerllion cyn cael ateb i'r cwestiwn hwn. Archaeolegwyr oedd yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad cwrs golff 2.6km (1.6 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer gafodd hyd i'r ateb.




Cwrs Golff Celtic Manor




O ganlyniad i'w gwaith ym 1996 darganfuwyd odyn a gweddillion sawl adeilad - cytiau sychu, o bosibl. Roedd yr odyn, oedd yn ôl pob tebyg yn un o blith nifer o odynau bach a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r math yma o grochenwaith, gan gynnwys amrywiaeth o botiau toredig Llestri Caerllion. 



Yn odyn Aber-nant cafwyd tystiolaeth bod y crochenwaith yr oedd Wheeler wedi ei osod mewn un grŵp, o wneuthuriad lleol. Ond roedd un cwestiwn arall heb ei ateb: pwy oedd y crochenwyr? 



Credai Wheeler mai llengfilwyr oedd y crochenwyr. Fodd bynnag, awgrymai astudiaeth fanwl o'r argraffnodau 'enw' oedd ar y powlenni cymysgu mawr (mortaria) fod y crochenwyr yn anllythrennog - yn wahanol i'r argraffnodau a welwyd ar deils, oedd yn amlwg lythrennog. 



Os oedd gwneuthurwyr y potiau'n anllythrennog, mae'n debyg mai aelodau o'r boblogaeth sifil oeddynt, ac mae hyn yn gyson âr ffaith fod y crochenwaith yn cael ei gynhyrchu ar adeg (o flynyddoedd cynnar hyd ganol yr ail ganrif) pan roedd nifer fawr o'r llengfilwyr i ffwrdd yng ngogledd Loegr. 



Mae'n annhebygol, felly, mai llengfilwyr oedd gwneuthurwyr crochenwaith Caerllion ond, heb os nac oni bai, cynhyrchwyd y crochenwaith ar gyfer llengfilwyr. 



Mae'n ymddangos yr aeth rhai aelodau mentrus o'r boblogaeth sifil ati i gyflenwi'r farchnad leol â chrochenwaith ar batrwm a oedd yn adnabyddus iddi.







 'Bulmore, Celtic Manor golf course, No. 3' gan B. C. Burnham. Yn Brittania, cyf. 28, tt401-2 (1997). 



'The Roman amphitheatre at Caerleon, Monmouthshire' gan T. V. a R. E. M. Wheeler. Yn Archaeologia, cyf. 78, tt111-218 (1928).