Locomotif stêm Richard Trevithick

Eitemau yn y stori hon:

  • 700
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 752
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Loco Penydarren




Ar 21 Chwefror 1804, rhedodd y daith rheilffordd gyntaf am 9 milltir o weithfeydd haearn Penydarren i Gamlas Merthyr-Caerdydd, gan gyrraedd cyflymder o bron pum milltir yr awr. Aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn bod trenau stêm yn dod yn fasnachol ymarferol, ond nid oes amheuaeth mai Trevithick yn hytrach na George Stephenson oedd gwir dad y rheilffyrdd.



Ym 1803, aeth Richard Trevithick i weithio gyda Samuel Homfray, perchennog gwaith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful. Roedd Homfray'n ymddiddori'n fawr yn yr injans gwasgedd uchel yr oedd y dyn o Gernyw wedi eu datblygu a'u defnyddio yn ei injans ffordd.



Anogodd Homfray Trevithick i ymchwilio i'r posibilrwydd o osod injan o'r fath mewn locomotif ar y rheilffordd newydd rhwng Penydarren a glanfa'r gamlas yn Abercynon.




Richard Crawshay




Mae'n debyg y dechreuodd Trevithick ddechrau gweithio ar y locomotif yn hydref 1803, ac erbyn Chwefror 1804 roedd wedi ei gwblhau. Yn ôl pob sôn, roedd Richard Crawshay, perchennog y gwaith haearn cyfagos yng Nghyfarthfa, yn amheus iawn o'r injan newydd. Betiodd ef a Homfray 500 gini'r un gyda Richard Hill, o waith haearn Plymouth, p'un a allai'r injan dynnu deg tunnell o haearn i Abercynon a thynnu'r wagenni gwag yn ôl wedyn.



Aeth yr injan ar ei thaith gyntaf ar 21 Chwefror, a disgrifiodd Trevithick y daith yn fanwl:



"... ddoe aethom ar ein taith gyntaf gyda'r injan, gan dynnu deg tunnell o haearn mewn pum wagen, a saith deg o ddynion yn teithio arnynt ar hyd y ffordd ... tra 'roedd yr injan yn gweithio, teithiodd bron i bum milltir yr awr; ni roddwyd dŵr yn y boeler o'r cychwyn hyd ddiwedd y daith ... defnyddiwyd dau ganpwys o lo."



Yn anffodus, torrodd bolltyn ar y daith yn ôl a barodd i'r boeler golli dŵr, felly bu'n rhaid gwneud y tân yn llai ac ni chyrhaeddodd yr injan Benydarren tan y diwrnod canlynol.



Rhoddodd hyn reswm i Crawshay honni na chyflawnwyd y daith fel y cytunwyd, ond ni wyddom a fu pen ar y mwdwl!



Y gwir oedd fod yr injan yn rhy drwm i'r cledrau, ac fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel injan sefydlog i yrru morthwyl gefail yng ngwaith haearn Penydarren.




Atgynhyrchiad Locomotif




Cynhyrchwyd yr atgynhyrchiad o'r locomotif sydd yn yr Amgueddfa heddiw gan ddilyn dogfennau a chynlluniau gwreiddiol Trevithick, sydd yn y National Museum of Science and Industry bellach. Aeth ar ei thaith gyntaf ym 1981 ac, yn rhyfedd, cafodd yn union yr un broblem â'r injan wreiddiol - torrodd y cledrau!



Mae locomotif Trevithick yn anhygoel o bwysig, does dim dwywaith am hynny. Ym 1800, y ffordd gyflymaf i bobl deithio ar y tir oedd ar gefn ceffyl; ganrif yn ddiweddarach, roedd system reilffordd helaeth dros y byd gyda threnau'n teithio'n rheolaidd ar gyflymder o hyd at chwe deg milltir yr awr. Fe ddigwyddodd y trobwynt hollbwysig hwn ym mis Chwefror 1804, yn ne Cymru.




Locomotif Penydarren: Diwrnod Stemio




Ffilm fer yn dogfennu stemio locomotif Richard Trevithick yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.



Mae Locomotif stêm Richard Trevithick yn nodwedd yn y llyfryn: Llyfr bach am beiriannau mawr - gan Amgueddfa Cymru, 2008