Llais i'r ddoli glwt

Eitemau yn y stori hon:

Y frwydr dros y bleidlais




Fel menywod ym mhedwar ban y byd, bu angen i fenywod Prydain frwydro dros yr hawl i bleidleisio. Er ein bod ni'n cymryd y fraint yma’n ganiataol heddiw, nid felly buodd pethau erioed.



Ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, bu mudiad Swffraget y merched yn brwydro dros hawl menywod i bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol.



Menywod oedd y rhan fwyaf o'r ymgyrchwyr ac fe'u galwyd yn Swffragetiaid. Ysgrifennwyd nifer o lyfrau amdanynt, ond rhywbeth sydd wedi denu llai o sylw yw'r mudiad gwrth-Swffraget, a oedd yn ceisio atal menywod rhag cael y bleidlais.



Bu'r gwrthwynebwyr hyn yn ceisio argyhoeddi pobl nad oedd modd i feddwl menyw ddeall gwleidyddiaeth. A phan fethodd hynny, troesant at dactegau fel anfon y 'ddoli fwdw' yma. Aeth rhai ohonynt mor bell ag ymosod ar yr ymgyrchwyr a phoeri arnynt yn y stryd.



Gwawdlun cas a grotesg o Swffraget yw'r ddoli. Byddai'r mudiad gwrth-Swffraget yn defnyddio delweddau fel yr un yma mewn cartwnau a phosteri. Roedden nhw’n gwawdio ac yn sarhau menywod oedd am gael yr hawl i bleidleisio.



Bu'r safbwyntiau hyn yn estyniad o'r syniad mai 'y cartref yw'r lle i'r ferch'. Câi menywod eu portreadu'n aml yn bobl oedd angen eu hamddiffyn rhag ‘byd y dynion’ sef byd gwaith a gwleidyddiaeth. Eu rôl oedd gofalu am eu gwŷr, eu cartrefi a’u plant.



Newidiodd rôl menywod yn y gymdeithas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Tra oedd dynion i ffwrdd yn ymladd, y menywod oedd yn gwneud llawer o’u swyddi. Rhoddodd hyn gyfle iddynt wrthbrofi’r ystrydeb mai nhw oedd y rhyw gwannaf, a phrofi eu bod yn gyfartal â dynion. Rhoddodd hyn ddadl gref arall dros roi’r bleidlais iddynt.



Er gwaethaf cadernid y gwrthwynebiad sy'n cael ei ddangos yn y ddoli hon, yn y pendraw enillodd cannoedd o filoedd o fenywod yng Nghymru yr hawl i fynegi'u barn drwy'r blwch pleidleisio. Diolch i ymroddiad y mudiad Swffraget, mae gan bob oedolyn ym Mhrydain heddiw yr hawl i fwrw pleidlais mewn etholiadau.



Cyfrannwyd gan Andrew Deathe, Amgueddfa Cymru Gweld y ddol yn 3D ar <a href="http://labs.peoplescollection.co.uk/2010/05/26/the-doll-that-sent-a-message/#more-97" target="new">Casgliad y Werin Cymru</a>