Skip to main content

Cofio'r Bois Bevin yn yr Ail Rhyfel y Byd

Ffynhonnell allanol:

Y ffrynt dan ddaear

Nid yw stori'r Bois Bevin yn un cyfarwydd. Ni chafodd y dynion di-ri hynny a dreuliodd y rhyfel ar y 'ffrynt dan ddaear' eu cydnabod am bron hanner canrif.

Pan gyhoeddwyd y rhyfel ym 1939, ymunodd miloedd o lowyr profiadol â'r lluoedd arfog, neu gael eu trosglwyddo i'r 'diwydiannau rhyfel' oedd yn talu'n well. Erbyn canol 1943 roedd mwy na 36,000 o ddynion wedi gadael y diwydiant glo. Penderfynodd llywodraeth Prydain fod angen tua 40,000 o ddynion i gymryd eu lle.

Ernest Bevin

Ym mis Rhagfyr 1943, creodd Ernest Bevin, y Gweinidog dros Lafur a Gwasanaeth Gwladol, gynllun oedd yn cynnwys cynnal balot i anfon cyfran o'r dynion oedd yn cael eu galw i wasanaethu i'r pyllau glo yn lle'r lluoedd arfog. Byddai deg rhif yn mynd i'r het bob mis a dau'n cael eu tynnu. Os oedd rhif cofrestru Gwasanaeth Gwladol dyn yn gorffen gyda'r ddau rif yna, fe fyddai'n mynd i weithio yn y diwydiant glo. Dechreuodd y dynion hyn gael eu galw'n 'Bois Bevin'.

Yn ogystal â'r rhai a gafodd eu dewis yn y balot, roedd yna wirfoddolwyr hefyd. Roedd y dynion yma wedi gwirfoddoli i wasanaethu yn y pyllau glo yn hytrach na'r lluoedd arfog. Rhwng 1943 a 1948, cafodd 48,000 o ddynion ifanc eu galw i'r Gwasanaeth Gwladol mewn swyddi ym mhyllau glo Prydain. Yn wahanol i'r gred gyffredin ar y pryd, dim ond 41 ohonyn nhw oedd yn wrthwynebwyr cydwybodol.

Roedd Bois Bevin yn dod o bob dosbarth cymdeithasol ac o bob rhan o Brydain - nid dim ond yr ardaloedd glofaol. Rhyw wybodaeth ddigon niwlog oedd gan lawer ohonyn nhw am y diwydiant glo cyn cael eu drafftio. Roedd y rhan fwyaf wedi gosod eu bryd ar yrfa yn y lluoedd arfog ac roedd yn gas ganddyn nhw gael eu hanfon i'r glofeydd.

Cosb

Byddai'r dynion a wrthodai mynd i'r pyllau glo'n cael eu cosbi. Ym mis Ebrill 1944, dywedodd Gwarcheidwad y Glofeydd fod 135 o ddynion y balot wedi cael eu herlyn am fethu ag ufuddhau i'r gorchymyn llafur uniongyrchol. Aeth 32 i'r carchar, er bod 19 wedi cael eu rhyddhau yn y pen draw ar ôl cytuno i fynd i weithio i'r diwydiant glo.

Caib a rhaw

Yn wahanol i'r glowyr cyffredin, oedd yn gwisgo'i ddillad e hun, roedd Bois Bevin yn gwisgo oferôl, helmed ddiogelwch ac esgidiau gwaith. Ond roedden nhw'n gorfod talu am eu hoffer eu hunain. Byddai ambell un yn cwyno nad oedd y milwyr yn gorfod prynu eu drylliau eu hunain, felly pam ddylen nhw orfod talu am gaib a rhaw!

Dim ond cyfran fach o Fois Bevin oedd yn cael eu cyflogi i dorri glo ar y ffas, er bod rhai'n helpu'r glowyr i lenwi dramiau. Roedd y rhan fwyaf yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y strydoedd tanddaearol, yn clymu ac yn datod dramiau neu'n rheoli symudiadau'r cludiant tanddaearol . Byddai nifer fach oedd wedi cael profiad o waith trydan neu waith peiriannu'n gwneud gwaith tebyg yn y glofeydd.

 

Ym 1943, roedd un o bob pedwar glöwr yn cael ei ladd neu ei anafu, ac roedd cael eich cyflogi i gludo glo neu offer bron mor beryglus â chynhyrchu glo ar y ffas. Roedd trin a thrafod dramiau'n dal i achosi llawer o anafiadau i'r bysedd a'r dwylo ac, yn fwy difrifol, fe allai arwain at farwolaeth pe bai rhywun yn cael ei wasgu o dan y cerbydau cyflym.

Glowyr anfodlon oedd y rhan fwyaf o Fois Bevin. Doedd ganddyn nhw fawr o ddiddordeb yn y gwaith, ac roedd gweddill y gweithwyr yn tueddu i gredu eu bod yn ddiwerth. Roedden nhw'n amhoblogaidd ymhlith teuluoedd glofaol lleol, a oedd wedi gweld eu plant eu hunain yn cael eu drafftio i'r lluoedd arfog a gweld pobl o'r tu allan yn cymryd eu lle. At hynny, os nad oedd dynion ifanc mewn lifrai, fe allen nhw gael camdriniaeth gan y cyhoedd, a gallai'r heddlu amau eu bod nhw wedi dianc o'r fyddin neu eu bod nhw'n ysbïo ar ran y gelyn. Does dim syndod bod llawer ohonyn nhw'n mynd yn absennol heb ganiatâd. Nifer fach iawn arhosodd yn y diwydiant glo ar ôl y rhyfel: roedd y rhan fwyaf ar dân eisiau rhoi'r gorau iddi.

"Demob"

Daeth y balot i ben ym mis Mai 1945 ac fe gafodd y canolfannau hyfforddi eu cau fis yn ddiweddarach. Ers mis Ionawr 1944 roedd Oakdale wedi hyfforddi 5,615 o ddynion, ac roedd 5,400 ohonyn nhw'n dal i weithio. O'r rhain, roedd 1,465 yn wirfoddolwyr.

Cafodd yr olaf o'r Bois Bevin eu rhyddhau ym 1948 ond, yn wahanol i'r dynion eraill a oedd wedi cael eu gorfodi i wasanaethu, doedd dim hawl ganddyn nhw i fynd yn ôl i'w hen swyddi. Cawson nhw ddim medal am wasanaethu, dim siwt o ddillad "demob" na hyd yn oed llythyr o ddiolch. Cafodd y cofnodion swyddogol eu dinistrio yn y 1950au, ac felly ni all Bois Bevin hyd yn oed brofi eu bod wedi gwasanaethau os nad ydyn nhw wedi cadw eu dogfennau eu hunain.

Cynhaliwyd aduniad swyddogol cyntaf Bois Bevin yn Amgueddfa Fwyngloddio Chatterley Whitfield ym 1989 ac mae mwy wedi cael eu cynnal yma ac acw ers hynny. Serch hynny, dim ond ym 1995, 50 mlynedd ar ôl Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, y rhoddodd llywodraeth Prydain gydnabyddiaeth i'w gwasanaeth yn y rhyfel a chaniatáu i Fois Bevin gymryd rhan swyddogol yn y gwasanaeth ar Sul y Cofio yn Whitehall.

Am fwy o wybodaeth am y Bois Bevin, Cysylltwch â: Warwick H Taylor, Vice President, Bevin Boys Association, 1 Rundlestone Court, Dorchester Dorset, DT1 3TN

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment