Mynydd Parys, Amlwch

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,166
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,565
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,070
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,402
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Mynydd Parys, Amlwch




Lleolwyd mwynfeydd copr Mona a Pharys ar Fynydd Parys, sydd rhyw ddwy filltir i'r de o Amlwch ar Ynys Môn. Enw gwreiddiol yr ardal oedd Mynydd Trysglwyn. Fe gafodd ei hail-enwi'n Fynydd Parys ar ôl Robert Parys, a dderbyniodd y tir fel gwobr gan y brenin ym 1406 am gasglu trethi a dirwyon oddi wrth bobl Ynys Môn am gefnogi Owain Glyndŵr.



Cafodd y tir ei basio i lawr drwy’r cenedlaethau am y 300 mlynedd nesaf. Ynghanol y ddeunawfed ganrif, roedd y tir yn eiddo teulu Bayley o Blas Newydd a William Lewis o Lys Dulas, y ddau dirfeddiannwr mwyaf ar Ynys Môn. Defnyddiwyd y tir ar gyfer ffermio defaid yn bennaf.



Bu chwilio mawr am ffynonellau copr newydd yn y 1760au, pan ddechreuodd y Llynges Brydeinig sicrhau bod llongau pren yn cael haen o gopr ar waelod y llong (copper-bottomed). Ym 1761 darganfuwyd olion cloddio cynharach ar Fynydd Parys pan ddisgynnodd ceffyl Archddiacon Meirionydd i mewn i siafft. Cloddiwyd nifer o siafftiau, ardal “Hen Waith” erbyn hyn, a darganfuwyd copr yno, ond bu llifogydd yn rhwystr i'r gwaith cloddio.




Darganfyddiad mawr




Ar 2 Mawrth 1768 daethpwyd o hyd i wythïen gyfoethog ar Fynydd Parys, ac fe dderbyniodd y darganfyddwr, Rowland Puw, mwynwr lleol, potel o wisgi a bwthyn di-rent am weddill ei oes! Ar ôl y darganfyddiad hwn, sylweddolwyd pa mor gyfoethog oedd Mynydd Parys. Roedd y ffin rhwng tir Cerrig y Bleddia, a oedd yn eiddo teulu Beyley o Blas Newydd, a Fferm Parys, a oedd yn eiddo i deulu Hughes yn Llys Dulas oherwydd priodas. Daeth Thomas Williams (Twm Chwarae Teg), cyfreithiwr lleol, yn rhan o'r trafodaethau ar ran teulu Hughes, a gyda'i gymorth ffurfiwyd cwmni Parys Mine Company (Partneriaeth Hughes a Williams) ym 1774, gyda Jonathan Roose yn arbenigwr technegol. Dros y blynyddoedd a ddilynodd, adeiladwyd swyddfeydd, stordai, odynnau a ffwrneisi mwyndoddi naill ai ar y mynydd neu ym mhorthladd Amlwch. Erbyn 1786, roedd 31 o ffwrnesi mwyndoddi a simnai 41 troedfedd o uchder yn y porthladd!



Ym 1784, fe enillodd Thomas Williams y cytundeb i gyflenwi'r bolltau a phlanciau a defnyddiwyd gan y Llynges i ddiogelu'r llongau rhag mwydod y môr (Sea Worms). Roedd y cytundeb cyntaf am 25,000 o folltau'r wythnos, ond tyfodd y swm hwnnw i 40,000 yr wythnos! Rhwng 1788 a 1805, cloddiwyd tua thair miliwn tunnell o fwyn yno, digon i gynhyrchu 130,000 tunnell o gopr.




Ceiniog Môn




Roedd ceiniogau'n brin ym 1786/1787 gan fod y bathdy brenhinol wedi rhoi'r gorau i'w cynhyrchu. Ym 1775, penderfynodd Thomas Williams fod angen ceiniogau, ac ym 1787 cynhyrchwyd y rhai cyntaf, ceiniogau copr, gyda llun o dderwydd wedi'i amgylchynu â dail derw, gyda 'PMC' ar gefn y geiniog yn sefyll am Parys Mining Company. Roedd hefyd yn cynnwys y geiriau 'We Promise to pay the bearer one penny' (gweler y llun uchod). Roedd hyn i atgoffa pobl mai tocyn masnach ydoedd ac nid darn arian swyddogol y deyrnas. Dechreuwyd talu'r mwyngloddwyr â'r tocynnau wedi hyn. Aeth Thomas Williams yn ei flaen i sefydlu cwmni 'Amlwch Shipping Company' ym 1788. Bu farw Thomas Williams ym 1802.



Erbyn 1811, Iarll Uxbridge (mab Nicholas Bayley, Plas Newydd) oedd y perchennog, a ffurfiodd gwmni newydd gyda theulu Vivian o Abertawe, a oedd yn berchen ar lawer o'r gweithfeydd copr yn Abertawe a Chernyw. Cyflwynodd y teulu dyn o Gernyw, Vivian James Treweek, i Fynydd Parys, ac yn y pendraw ef ddaeth yn rheolwr y gweithfeydd. Dechreuodd ef gloddio siafftiau dwfn, fel yng Nghernyw, a oedd yn hollol wahanol i'r mwyngloddio brig a oedd wedi bod yn digwydd ar Fynydd Parys. Roedd rhai o’r siafftiau hyn yn estyn tua 350 metr. Bu mor llwyddiannus, erbyn 1816, roedd allbwn y mwyngloddiau 6 gwaith yn fwy.



Roedd James Treweek wedi arfer â phwmpio dŵr o fwyngloddiau, ac ym 1819, adeiladwyd tŷ peiriant Pearl i gadw'r cloddfeydd yn sych. Fe'i hagorwyd ym 1819, ac erbyn heddiw dyma'r unig enghraifft o beiriant trawst Cernywaidd yng Nghymru. Bu James Treweek yn rheoli'r mwynfeydd tan y bu farw ym 1851.




Dirywiad y diwydiant copr




Roedd y galw am gopr wedi lleihau ar ddechrau'r 19eg ganrif, a'r mwynfeydd yn ei chael yn anodd gwneud elw. Ym 1829 roedd 16,400 o dunelli o gopr yn cael ei gloddio'n flynyddol, dim ond hanner cymaint ag oedd yn cael ei gloddio pan oedd y fwynfa yn ei hanterth. Darganfuwyd gwythïen arall o gopr yn y 1850au, a bu hyn yn help dros dro i'r ardal, ond o 1878 ymlaen aeth hi'n rhy ddrud ac anodd i echdynnu'r copr o’r tir. Erbyn cyfrifiad 1901, dim ond 141 o weithiwr oedd yn y mwynfeydd, ac erbyn 1904, roedd y gwaith o dan ddaear wedi dod i ben.



Ym 1937, bu cloddio archeolegol yn yr ardal, a darganfuwyd 24 o eitemau. Ail-gloddiwyd yr ardal ym 1988 a darganfuwyd rhagor o eitemau. Cafodd yr haenen siarcol ei charbon-ddyddio i rhwng 2050 a 1690 CC, sy'n awgrymu y bu cloddio yn yr ardal yn Oes yr Efydd.



Ym mis Gorffennaf 1995, aeth tîm ati i fwrw golwg ar weithfeydd tanddaearol yr ardal. Roedd mwyafrif y gweithfeydd yn dyddio o'r 18fed a'r 19eg ganrif, ond darganfuwyd siambr tua ugain metr o dan y ddaear a oedd yn fwy na thebyg yn gynhanesyddol. Yn 2001, penderfynodd Grŵp Tanddaearol Parys archwilio'r ardal unwaith eto, ac achoswyd pryderon mawr pan ddarganfuwyd argae a adeiladwyd i arbed y mwyngloddiau rhag boddi. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Ddiwydiannol Amlwch, Anglesey Mining PLC, Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r cyngor lleol, dechreuwyd ar brosiect gwagio dŵr (Dewatering Project) yn 2003. Symudwyd tua 30 miliwn o alwyni o ddŵr yn gyfan gwbl.