Owain Glyndŵr

Eitemau yn y stori hon:

  • 3,173
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,252
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 843
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Plentyndod

Nid oes enw mwy adnabyddus yn hanes Cymru nag Owain Glyndŵr. Er gwaethaf hyn, mae'r rhan fwyaf o'i fywyd yn ddirgelwch. Er enghraifft, nid oes unrhyw un yn hollol sicr pryd cafodd ei eni; mae tri dyddiad posibl: 1349, 1354 a 1359. Ond un peth sydd yn sicr yw ei fod wedi'i eni i deulu cyfoethog a llinach bwysig.

Roedd ei dad, Gruffydd Fychan II, yn rhan o linach Powys a oedd yn mynd yn ôl i Bleddyn ap Cynfyn, rheolwr Powys yn yr unfed ganrif ar ddeg, a'i fam, Elen ferch Tomos ap Llewelyn, yn rhan o linach y Deheubarth yn ôl i Rhys ap Tewdwr. Wrth gynnwys hwn a marwolaeth Owain Lawgoch, aelod olaf llinach wrywaidd Gwynedd ym 1378, Owain Glyndŵr oedd y dewis amlwg i fod yn dywysog Cymru.

Roedd gan ei deulu stadau yn Sycharth, Iscoed yn Nyffryn Teifi a etifeddodd ei fam, a stad yng Nglyndyfrdwy yn Nyffryn Dyfrdwy. Credir y treuliodd Owain y rhan fwyaf o'i blentyndod yn Sycharth. 

 

Cysylltiadau â Lloegr

Fel llawer o foneddigion yng Nghymru, roedd Owain yn ffyddlon i goron Lloegr. Bu'n astudio'r gyfraith yn Llundain, ac yn aelod o fyddin Brenin Richard II yn ymladd ar ffin yr Alban, ac yna yn ystod ymgyrchoedd yr Alban a Ffrainc ym 1387.

Ym 1383 priododd Owain Margaret Hanmar, merch o gefndir Eingl-normanaidd, o deulu arglwyddi'r Gororau, a gyrhaeddodd gydag Edward I dros gan mlynedd yn gynharach. Roedd ei thad, Syr Dafydd Hanmer, yn gyfreithiwr yn Llundain, ac mae'n debyg mai dyma'r rheswm aeth Owain i astudio'r gyfraith.

Rhwng ei ymgyrchoedd gyda'r fyddin, roedd Owain yn byw bywyd cysurus fel bonheddwr gwledig, ac roedd mewn cysylltiad â nifer fawr o foneddigion Y Gororau. Felly, beth achosodd iddo newid o fod yn ddilynwr ffyddlon y goron a pheryglu ei statws uchel a pharchus wrth arwain gwrthryfel yn erbyn Lloegr, a hawlio'r teitl Tywysog Cymru?

 

Cefndir y gwrthryfel

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd yna nifer o bethau yn dechrau gwylltio'r Cymry. Roedd trethi yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr, a gyda heddwch yn Ffrainc, roedd milwyr yng Nghymru allan o waith. Roedd hefyd anffafriaeth hiliol tuag at y Cymry, yn enwedig ym myd masnach, a phenodiadau i swyddi allweddol yn yr Eglwys a'r llywodraeth. Roedd nifer o bobl yng Nghymru o’r farn eu bod yn alltudion yn eu gwlad eu hunain, ac roedd angen arweinydd arnynt.

O ran Owain Glyndŵr, mae sawl awgrym pam y dechreuodd y gwrthryfel. Roedd dadl rhyngddo a'i gymydog Reginald de Grey am ddarn o dir. Reginald de Grey oedd 3ydd Barwn Grey Rhuthun ac Iarll Chaer; roedd yn perthyn i arglwyddi'r Gororau a wahanodd Cymru a Lloegr yng nghyfnod Edward I. Aeth yr achos yr holl ffordd i'r senedd yn Llundain, ond ni chafodd Glyndŵr, gan ei fod yn Gymro, tegwch, a gwrthodwyd yr achos. Cynyddodd problemau Glyndŵr pan ddefnyddiodd De Grey ei statws i bardduo'i enw. Llwyddodd i dwyllo Owain wrth rwystro galwad y brenin newydd, Harri IV, iddo ymuno â'i ymgyrch yn yr Alban ym 1400. Fe ystyriwyd hyn yn frad, yn enwedig pan fu Glyndŵr mor ffyddlon i'r brenin blaenorol.

Beth bynnag a achosodd y gwrthryfel, ar 16 Medi 1400, coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru a dau ddiwrnod yn ddiweddarach llosgwyd Rhuthun yn ulw, gyda nifer o drefi eraill yn y gogledd-ddwyrain yn derbyn yr un driniaeth yn y diwrnodau a ddilynodd. Erbyn 26 Medi, roedd byddin Harri IV wedi cyrraedd Amwythig, ac erbyn dechrau mis Hydref roedd wedi cyrraedd Bangor, yng ngogledd-orllewin Cymru. Roedd Owain Glyndŵr a'r Cymry wedi diflannu i'r mynyddoedd ac yn defnyddio tactegau gerila, a dyma sut lwyddodd y gwrthryfel i barhau cyhyd. 

 

1400-1410

Dyma ddegawd gwrthryfel Owain Glyndŵr, a ddechreuodd pan goronwyd ef yn Dywysog Cymru ym 1400. Cipiodd gastell Conwy ym 1401, ac enillodd Brwydr Hyddgen.

Cyrhaeddodd y gwrthryfel ei anterth rhwng 1403 a 1405, a hynny drwy Gymru gyfan. Ymosodwyd ar gestyll a thai teuluoedd o Loegr ledled Cymru. Ym 1402, cipiwyd castell Caerfyrddin, ac ymosodwyd ar gestyll Y Fenni a Brynbuga. Cipiwyd cestyll Caerdydd a Chas-gwent.

Ym 1403, ymosodwyd ar gastell Caernarfon, a bu bron iddo gael ei gipio. Ym 1404 cipiwyd cestyll Cricieth, Harlech ac Aberystwyth. Yn yr un flwyddyn, cynhaliwyd Senedd Glyndŵr ym Machynlleth gyda phedwar dyn, un o bob ardal yng Nghymru. Lluniwyd cytundebau gyda Ffrainc a Sbaen, ac fe goronwyd Owain Glyndŵr yn Frenin Cymru. Glaniodd Ffrancwyr yn Aberdaugleddau ym 1404 ac ymuno â byddin Glyndŵr.

Cynhaliwyd yr ail senedd yn y flwyddyn ganlynol, a thrafodwyd syniad Glyndŵr am rannu Cymru a Lloegr yn dair rhan. Byddai Mortimer yn cael y de a'r gorllewin, Thomas Percy, Iarll Northumberland, yn cael y canoldir a'r gogledd, ac Owain ei hun yn cael Cymru a'r Gororau. Ar 31 Mawrth 1406, er mwyn sicrhau cymorth ychwanegol oddi wrth Ffrainc, ysgrifennodd Glyndŵr lythyr at Frenin Charles VI, o Bennal ger Machynlleth. Hwn yw'r Llythyr Pennal enwog. Yn y llythyr mae Owain yn cytuno i drosglwyddo ufudd-dod eglwysi Cymru oddi wrth Bab Rhufain i Bab Avignon. Ni chafwyd ateb i'r llythyr.

Aeth pethau o ddrwg i waeth ym 1408, pan gipiodd brenin Lloegr gestyll Aberystwyth a Harlech, a phan garcharwyd teulu Glyndŵr. Bu'n rhaid i Owain a'i fab Meredudd ac eraill ffoi. Nid oes llawer o sôn am Owain wedi hyn: mae'n cael ei enwi am y tro olaf yng nghofnodion y llywodraeth ym mis Chwefror 1416, ond credir ei fod wedi marw erbyn hynny. Nid oes cofnod o’i farwolaeth, na lle cafodd ei gladdu.