Skip to main content

Un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru

Ffynhonnell allanol:

Williams-Wynn o Wynnstay

Daeth teulu Williams-Wynn, Wynnstay, Sir Ddinbych yn un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru tua dechrau'r 18fed ganrif a pharhau felly am dros ddwy ganrif.

Roedd gan sawl aelod o'r teulu ddiddordeb yn y celfyddydau a daeth Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789), 4ydd barwnig, yn un o noddwyr mwyaf y celfyddydau gweledol a cherddoriaeth yng Nghymru. Erbyn hyn, mae rhan fawr o'i gasgliad yn Amgueddfa Cymru.

'Cyfoeth Syr Watkin'

Syr Watkin Williams-Wynn (1693-1749), 3ydd barwnig, oedd tirfeddiannwr mwyaf Cymru yn ystod y 1730au a'r 1740au, ac roedd yn un o arweinwyr cenedlaethol y blaid Doriaidd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Roedd yn ŵyr i'r gwleidydd Syr William Williams (1633/4-1700) a ddaeth yn berchennog ar stadau yn Sir Ddinbych a Swydd Amwythig. Fodd bynnag, nid gan ei dad yr etifeddodd y rhan fwyaf o'i gyfoeth mawr ond gan nifer o berthnasau benywaidd.

Ym 1719, etifeddodd stad Wynnstay yn Sir Ddinbych a thiroedd eraill yng Nghaernarfon a Meirionnydd gan gefnder ei fam, Syr John Wynn.

Ym 1715, priodwyd Wynn â merch ieuengaf Edward Vaughan, Llwydiarth ac erbyn 1725, roedd rhieni ei wraig a'i chwaer hŷn wedi marw ac felly etifeddodd ragor o stadau ym Maldwyn, Sir Ddinbych a Meirionnydd.

Erbyn hyn, roedd yn berchen ar dros 100,000 o erwau, gwerth rhwng £15,000 ac £20,000 y flwyddyn, a rhoddodd hyn ddylanwad mawr iddo mewn etholiadau seneddol. </

Ar ôl marwolaeth ei wraig Ann Vaughan ym mis Mai 1748, priododd Wynn â'i ferch fedydd, Frances Shakerley (1717-1803). Ganed eu mab, yntau hefyd yn Syr Watkin Williams-Wynn, y 4ydd barwnig, ym mis Ebrill 1749.

Lladdwyd Syr Watkin, a alwyd weithiau'n 'Dywysog Cymru', mewn damwain wrth hela ym mis Medi 1749.

Ceir dau bortread ohono yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Gwaith Thomas Hudson, portreadwr ffasiynol o Lundain a dynnai luniau ffurfiol caboledig, oedd un o'r rhain.

Llun pastel gan William Hoare o Gaerfaddon yw'r llall. Mae'n un o grŵp o luniau a gomisiynwyd gan gydymaith Wynn, yr Arglwydd Lichfield.

Soffistigeiddrwydd diwylliannol a gyfoeth

</h3>

<p>Mae dau ddarn o waith arian yn arwydd o gyfoeth a soffistigeiddrwydd diwylliannol Wynnstay, sef p&acirc;r o ganwyllbrennau mawr a stand teircoes enfawr ar gyfer tegell. </p>

<p>Gwnaed y canwyllbrennau yn Llundain ym 1734 gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin, ac maent wedi'u boglynnu a'u castio &acirc; blodau, cregyn a sgroliau &mdash; yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. Roeddent yn rhan o set o bedwar a chawsant eu cynnwys mewn rhestr o waith arian Syr Watkin a luniwyd ar &ocirc;l iddo farw. </p>

<p>Mae ychydig o waith arian a brynwyd gan y teulu ym 1720 wedi goroesi. Mae hyn yn beth eithriadol o brin oherwydd dim ond llond llaw o'r darnau hyn na chafodd eu toddi i'w hailddefnyddio.</p>

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment