Hen Galan, Cwm Gwaun

Eitemau yn y stori hon:

Hen Galan – Cwm Gwaun

Er bod y wlad i gyd yn dathlu dechrau'r flwyddyn newydd ar 1 Ionawr, mae yna gornel fach yn Sir Benfro sy'n ei ddathlu ar 13 Ionawr! I drigolion ardaloedd Pont-faen a Llanychâr yng Ngwm Gwaun, 13 Ionawr yw'r diwrnod calan traddodiadol, gyda'r plant yn mynd o gwmpas yn canu calennig, a phawb yn dathlu dechrau'r flwyddyn newydd.

Mabwysiadu'r Calendr Gregoraidd

Ond pam dathlu bythefnos ar ôl gweddill Prydain? Mae'r traddodiad yn dyddio'n ôl i 1752, pan fabwysiadodd Prydain y calendr Gregoraidd, bron 200 mlynedd ar ôl gweddill Ewrop. Diddymwyd y calendr Iwlaidd ac fe 'gollodd' pobl Prydain 13 diwrnod.

Bu gwrthwynebiad mawr i hyn, gyda nifer fawr o ardaloedd trwy Brydain yn dal i ddathlu'r flwyddyn newydd ar 13 Ionawr. Wrth i'r blynyddoedd basio, daeth pobl i arfer â'r calendr newydd, a dathlwyd y flwyddyn newydd ar y cyntaf, ar wahân i Gwm Gwaun.

Traddodiad yn parhau

Mae'r traddodiad yn parhau o hyd yn yr ardal wledig hon yn Sir Benfro, gyda phlant yn cael diwrnod o wyliau o'r ysgol, a'r trigolion yn dod at ei gilydd i ddathlu. Os cofiwch chi, bu raid i'r plant frwydro trwy luwchfeydd eira Ionawr 2010 er mwyn cadw'r traddodiad yn fyw.