Y Bwrdd Glo Genedlaethol yn ne Cymru

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,153
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,044
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,244
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Diwrnod Breinio




O ganlyniad i hanes digalon y diwydiant glo rhwng y ddau ryfel byd, rheolaeth y llywodraeth drosto yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'r angen am lo ym Mhrydain ar ôl y rhyfel, roedd hi bron yn anorfod y byddai'r diwydiant yn cael ei wladoli ar &ôl ethol llywodraeth Lafur ym 1945.



Croesawyd y 'Diwrnod Breinio', 1 Ionawr 1947, i raddau helaeth yng nglofeydd Cymru. Daeth maes glo de Cymru yn rhan o Ranbarth De Orllewin y Bwrdd Glo Cenedlaethol.



Ymhlith yr asedau a ddaeth i ddwylo'r NCB yn y Deyrnas Unedig roedd dros 1,400 o byllau glo, 225,000 erw o dir amaethyddol, 140,000 o dai glowyr, siopau, swyddfeydd, gwestai, pyllau nofio, un gwersyll gwyliau ac un trac seiclo!



Buddsoddiad A Siom



Buddsoddwyd swm sylweddol o ganlyniad i'r Gwladoli. Rhwng 1948 a 1953, buddsoddwyd bron £32 miliwn yn ardal Caerdydd. Costiodd gwaith ailadeiladu Glofa Nantgarw yn unig £41/2 miliwn. Bu cynnydd yn y mecaneiddio ar y ffas lo ac ymgyrchoedd i wella iechyd a diogelwch.




Cau Pyllau A Thrychinebau




Hyd yn oed yn nyddiau cynnar yr NCB, roedd tuedd i gau pyllau bach nad oedd yn talu'r ffordd ac i addrefnu'r rhai mwy. Fodd bynnag, erbyn y 1960au, dechreuwyd gadael i faes glo'r de ddirywio'n fwriadol. Ni fu i'r un maes glo arall ym Mhrydain ddioddef y fath grebachu mileinig - ym 1960 roedd 106,000 o lowyr yn ne Cymru, erbyn 1970 doedd dim ond 60,000. Bu'n rhaid arafu'r broses o gau'r pyllau yn ystod argyfwng olew'r Dwyrain Canol ynghanol y 1970au.



Ym 1960, lladdwyd 45 o lowyr gan danchwa yng Nglofa Six Bells, ac ar fore Gwener, 21 Hydref 1966, llithrodd darn mawr o domen rwbel Glofa Merthyr Vale i lawr y bryn ar bentref Aberfan, gan ladd 144 o bobl yn cynnwys 116 o blant. 




1960au




Yn y 1960au y datblygwyd 'archbyllau' mawr newydd Glofeydd Aber-nant, Brynlliw a Chynheidre ac y buddsoddwyd symiau sylweddol yn ad-drefnu glofeydd fel Coegnant, Deep Navigation a Merthyr Vale.



Dyma'r degawd bod holl fwynwyr Prydain yn cael yr un gyfradd dôl.Ar y cyfan, roedd y rheolwyr a'r undebau llafur yn croesawu'r cytundeb hwn er i lawer o ddynion weld cwymp sylweddol yn eu hincwm. Daeth y Cytundeb â theimlad o undod rhwng holl feysydd glo y DU ac fe arweiniodd hynny, mewn ffordd, yn y pen draw, at streiciau cenedlaethol 1972 a 1974, a ymladdwyd dros gyflogau. Anghydfod 1974 a arweiniodd at gwymp y llywodraeth Geidwadol.



Y Blynyddoedd Olaf



Erbyn dechrau'r 1980au, roedd diwydiant glo Prydain ymhlith y mwyaf diogel a'r mwyaf effeithlon yn Ewrop. Fodd bynnag, roedd llywodraeth Geidwadol newydd wedi'i hethol ac roedd cynlluniau ar y gweill i gau rhagor o byllau. Roedd meysydd glo Cymru yn fwy tebygol o ddioddef gan fod y glofeydd yn hen a'r ddaeareg yn achosi problemau.



Er bod y cynlluniau i gau glofeydd wedi'u derbyn yn anfoddog yn y gorffennol, y tro hwn galwyd am weithredu diwydiannol gan nad oedd swyddi eraill i'w cael ar gyfer y dynion. Cychwynnodd streic fawr olaf y glowyr ym mis Mawrth 1984 a pharodd flwyddyn. Gorchfygwyd y glowyr a chwalwyd diwydiant glo Cymru.



Yn ystod y ddeng mlynedd nesaf daeth gwladoli'r diwydiant glo i ben. Ym 1994 caewyd pwll glo Tŵr, sef pwll glo olaf Cymru, gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol (yn ddiweddarach Glo Prydain). Fodd bynnag, roedd rhai o'r glowyr yn argyhoeddedig bod y pwll yn effeithiol yn economaidd, ac fe gyfunodd 239 ohonynt eu harian diswyddo i brynu'r pwll. Parhaodd y pwll i fod yn weithredol tan iddo gau am y tro olaf ar 25 Ionawr 2008, gan ddirwyn 200 mlynedd o gloddio glo de Cymru i ben.



Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres <a Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.