arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Cystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol 1933 a 2011

Eitemau yn y stori hon:

Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam – 1933 a 2011




 



Rhywbeth a newidiodd yn arw’n ystod yr ugeinfed ganrif oedd cystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae llawer wedi’i ysgrifennu dros y blynyddoedd am gystadlaethau llenyddol y Brifwyl, gan edrych ar ffasiwn a thueddiadau barddonol y cyfnod drwy gynnwys llenyddol yr Eisteddfod. Ond ychydig iawn o sylw sydd wedi’i roi i rai o’r cystadlaethau mwy anghyffredin a fyddai’n ymddangos yn y Rhestr Testunau yn ystod hanner gyntaf yr ugeinfed ganrif. Dyma oedd cyfnod y cystadlaethau ymarferol, cystadlaethau sydd wedi’u hen anghofio, ond sy’n rhan bwysig a diddorol o hanes y Brifwyl dros y ganrif a hanner ddiwethaf.



Mae pori mewn hen gopïau o’r Rhestr Testunau a’r Rhaglen Swyddogol yn hynod ddiddorol ac yn dangos yr amrywiaeth eang o gystadlaethau a oedd yn bodoli bob blwyddyn. Rydym am edrych ar y testunau o 1933 yn yr erthygl hon er mwyn cael cipolwg ar y mathau o gystadlaethau a oedd yn bodoli’n ystod y cyfnod.



Wrecsam oedd cartref yr Eisteddfod y flwyddyn honno, a dyma oedd ymweliad cyntaf y Brifwyl â’r dref ers un mlynedd ar hugain. Roedd Rhestr Testunau 1933 yn wahanol iawn i’r rhestr a gyhoeddwyd ar gyfer Eisteddfod Wrecsam 2011, gydag adrannau cyfan o gystadlaethau’r gorffennol wedi’u hepgor erbyn heddiw.



Er gwybodaeth, ‘Harlech’, oedd teitl yr awdl, ac enillwyd y Gadair gan Edgar Philips. ‘Rownd yr Horn’ oedd teitl y Bryddest fuddugol, er y gellid bod wedi ysgrifennu cerdd ar y testun ‘Yn y Wlad’ neu ‘Yr Hyfryd Lais’, ac enillydd y Goron oedd Simon B Jones. Ond ein bwriad ni yma yw tyrchu’n ddyfnach i mewn i’r Rhestr Testunau a’r Rhaglen Swyddogol er mwyn dod ar draws rhai o’r pytiau diddorol sydd yn gwneud hanes yr Eisteddfod Genedlaethol mor unigryw ac mor bwysig i’n hanes ni fel cenedl dros y ganrif a hanner ddiwethaf.




Cystadlaethau wedi diflanu




 



Adran sydd wedi diflannu o’r testunau ers blynyddoedd lawer yw adran y crefftau diwydiannol, ond yn 1933, roedd cystadlaethau o’r fath ar eu hanterth. Roedd y gwobrau’n hael iawn yn yr adran hon, a gallai’r cystadlaethau hyn ddenu nifer fawr o gystadleuwyr.



Roedd y cystadlaethau’n canolbwyntio ar y diwydiannau yn ardal yr Eisteddfod ei hun, felly yn 1933, y pyllau glo oedd yn cael sylw. £10 oedd y wobr am draethawd yn trafod Tir Glo Gogledd Cymru, ei nodweddion daearegol a’i gyd-berthynas â thiroedd glo eraill, ac roedd gwobr o £5 am y traethawd gorau’n trafod Hydrogeneiddio Glo, gydag awgrymiadau sut i’w ddatblygu’n llwyddiannus yn nhir glo Gogledd Cymru.



Un o’r cystadlaethau mwyaf anghyffredin yn yr adran hon oedd cystadleuaeth Rhif 150, Saethu a Phrofi Nwy. Mae’r Rhaglen yn datgan y byddai’r gystadleuaeth hon yn cynnwys ‘Arholiad ar waith ac ar lafar. Fe roddir ystyriaeth ddyladwy i wybodaeth yr ymgeisydd am y defnyddiau ffrwydro a arferir mewn pyllau glo, ac am y nwyon a gynhyrchir o’u defnyddio, ac am y moddion i rwystro posibilrwydd ffrwydro wrth danio yn y talcen glo’. Er bod y wobr yn hael - £3 3s fel gwobr gyntaf, £2 2s fel ail wobr a £1 1s yn drydedd wobr, wedi’u rhoi gan F & L Major, Agents for Nobels Explosives Co., Ltd, Yr Amwythig – ni chafwyd yr un ymgeisydd yn y gystadleuaeth hon.




Cystadlaethau pensaernïaeth




 



Diddorol hefyd yw’r cystadlaethau pensaernïaeth yn 1933. Mae’r Eisteddfod yn dal i wobrwyo llwyddiant a blaengaredd yn y maes hwn gyda’r Fedal Aur am Bensaernїaeth yn un o brif gystadlaethau Y Lle Celf. Ond roedd anghenion 30au’r ugeinfed ganrif yn wahanol i’r hyn sydd ei angen heddiw, ac roedd cystadlaethau’r adran hon yn adlewyrchiad pendant o’r cyfnod.



Ymgeisodd pedwar ar ddeg yng nghystadleuaeth Rhif 157, sef Cynllun Steshon Betrol yn y wlad. Yr Athro Reilly o Lerpwl oedd y beirniaid, ond does dim manylion am wobr i’r gystadleuaeth hon yn y Rhaglen. Aeth saith o gystadleuwyr ati i greu Trefn a Chynllun Gorsaf Drafnidiaeth Ffordd, ar raddfesur, i’w hadeiladu ar y Sgwâr Parcio, King Street, Wrecsam, gyda phlatfform mynd a phlatfform dyfod ar wahân, ac ystafelloedd aros, gyda’r Athro Reilly’n feirniaid ar hon hefyd. Roedd y wobr yn hael - £10 am y cynllun gorau.



Roedd adran celfyddyd ymarferol yr Eisteddfod hefyd yn dra diddorol yn ystod y cyfnod hwn, gyda nifer fawr o gystadlaethau hynod ymarferol a fyddai’n gyfle i arddangos medrau mewn nifer o feysydd gwahanol.



Un is-adran y flwyddyn honno oedd Chwarela, a chyda’r Eisteddfod yn cael ei chynnal mewn ardal chwarelyddol, hawdd yw gweld pam y byddai’r cystadlaethau’n bodoli. Roedd rhaid creu plyg o lechfaen cymwys i wneud top bwrdd cyntedd gyda cherfiad mewn Bas Relief, o arfbais un o Siroedd Cymru. Roedd y wobr - £4 4s yn eithriadol hael – ond yn anffodus, ni chafwyd yr un ymgais yn y gystadleuaeth hon yn 1933




Rhestr Testynau gwahannol




 



Pedwar ymgeisydd a aeth ati i gystadlu yng nghystadleuaeth Rhif 173, yn yr adran Priddfeini a Llestri Pridd, a oedd yn gofyn am fodel o Afr y Fyddin Gymreig, mewn Bas Relief, mewn Terra Cotta, neu fodel o’r Ddraig Goch mewn Bas Relief, mewn Terra Cotta – dipyn o gamp, a braf fyddai cael gweld y ceisiadau am y wobr o £2 2s, rhoddedig gan yr Athro T Samuels M.Sc, o’r Athrofa Dechnegol yn Wrecsam.



Mae’n rhaid gofyn sut y byddai’r ceisiadau hyn yn cyrraedd pen eu taith. Sut y byddai un o’r pedwar ymgeisydd yn y gystadleuaeth uchod yn llwyddo i sicrhau bod model o Afr y Fyddin Gymreig yn cyrraedd Wrecsam mewn un darn? Fe fyddai wedi bod hyd yn oed yn fwy anodd i’r cystadleuydd a gymerodd ran yng nghystadleuaeth Rhif 172, Lle tân hynafol, artistig, o briddfaen – model neu un llawn faint – sicrhau bod ei ch/gynnig yn cyrraedd Tom Carrington, Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Wrecsam 1933, mewn un darn! Byddem yn hoffi clywed gan unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth am y pwnc.



Roedd pob math o gystadlaethau gwaith llaw yn yr Eisteddfod yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif – o gasgliad o laswellt neu flodau, mewn albwm gyda nodiadau a maneg lo neu beth dal tebot o unrhyw ddefnydd, i ddwy dudalen o gystadlaethau hynod boblogaidd yn yr adran Cyffeithiau Addurnedig, gan gynnwys teisennau priodas, teisennau pen blwydd, gwaith marzipan a Boncyffion Battenburg a Boncyffion Nadolig (heb fod dros ddau bwys yr un). Ond, ‘doedd y rhain ddim yn gystadlaethau cwbl agored gan fod y Rhaglen yn nodi ‘Yn agored i efrydwyr sydd wedi mynychu Ysgol Bobi gydnabyddedig yn ystod y tymhorau 1931-32, 1932-33’.



Felly, gwahanol iawn oedd Rhestr Testunau 1933 o’i chymharu â rhestr 2011. Roedd y cwmpas eang o gystadlaethau’n cynnig cyfle i bawb arddangos eu doniau mewn rhyw ffordd neu’i gilydd dri chwarter canrif yn ôl. Pa le oedd i gystadlaethau o’r fath mewn gŵyl ddiwylliannol a’i phrif nod yn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg – pwy â ŵyr. Ond fe newidiodd pethau dros y blynyddoedd wrth i’r Eisteddfod a Chymru ddatblygu ymhellach nes cyrraedd Prifwyl yr unfed ganrif ar hugain a chystadlaethau 2011, a fydd yn cael eu beirniadu dros y misoedd nesaf wrth i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro brysur agosau.



Oes gennych chi ragor o wybodaeth neu ddelweddau yn ymwneud â'r stori yma? Ymunwch a Chasgliad y Werin Cymru, a llwythwch eich eitemau eich hun!

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw